Castell Gwrych yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd
Countess's Writing Room restoredFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Ystafell ysgrifennu yr iarlles ar ei newydd wedd

Bydd Castell Gwrych ger Abergele yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd yn ddyddiol ym mis Awst a hynny am y tro cyntaf ers 1998.

Ers ugain mlynedd, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ceisio diogelu'r safle sy'n dyddio nôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg,

Yn 1997 fe sefydlodd Mark Baker, 12 oed, ymgyrch i ddiogelu'r adeilad ac ers hynny mae gwirfoddolwyr wedi bod yn diogelu rhannau o'r castell ac wedi arwyddo les i edrych ar ôl rhan fawr o'r gerddi.

Cafodd Castell Gwrych ei adeiladu rhwng 1812 a 1822 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh fel cofeb i deulu ei fam - sef y 'Llwydiaid'.

Yn 1989 cafodd ei werthu i Americanwr a gwnaed cynlluniau ar gyfer ei ddyfodol gan fod ei gyflwr yn gwaethygu.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Castell Gwrych

Yn ôl Mark Baker, sydd bellach yn hanesydd pensaernïol, roedd hi'n rheidrwydd arno i achub y castell gan ei fod yn arfer cerdded heibio'r castell bob dydd i'r ysgol.

Fe ddenodd ei ymgyrch sylw papurau lleol ac arweinwyr yn y gymuned.

Mae gan yr elusen bellach les 25 mlynedd ar bum erw o'r safle.

Mae'r gefnogaeth yn golygu bod gwaith wedi dechrau ar adnewyddu rhan gyntaf y castell sef Ystafell Ysgrifennu yr Iarlles yn Nhŵr y Garddwr.

Er bod y gerddi swyddogol yn cael eu hagor yn rheolaidd bydd cyfle yn ystod mis Awst i'r cyhoedd fynd bob dydd i weld y gerddi.

Dyweodd Dr Baker bod mynediad i'r cyhoedd wastad wedi bod yn flenoriaeth ganddo.

I ddathlu ugain mlynedd yr ymddiriedoaelth bydd digwyddiadau eraill hefyd yn cael eu cynnal - yn eu plith gŵyl ganoloesol ar 19-20 Awst.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Cynt: 'Mieri lle bu mawredd'

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Y castell presennol wedi'i adfer

Ffynhonnell y llun, Karen Kenworthy