Yr awdur toreithiog a'r darlledwr Alun Gibbard wedi marw

Roedd Alun Gibbard yn awdur hynod doreithiog
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdur toreithiog a'r darlledwr Alun Gibbard wedi marw yn 65 oed wedi salwch creulon.
Yn ei flynyddoedd cynnar roedd Alun yn adnabyddus fel cynhyrchydd a chyflwynydd - am flynyddoedd bu'n darllen bwletinau Radio Cymru ac roedd yn rhan o dîm cynhyrchu a chyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol a rhaglenni cwmni Tinopolis ymhlith eraill.
Yn fwyaf diweddar roedd yn cael ei adnabod fel awdur dawnus ac ysgrifennu oedd ei fywoliaeth.
Cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg
Fe gyhoeddodd dros 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg - y mwyafrif yn rhai dogfennol.
Roedd wrth ei fodd yn cydysgrifennu bywgraffiadau. Yn eu plith mae 'Y da a'r direidus' - stori Aled Hall, 'Mab y Mans' - hunangofiant Arfon Haines Davies, 'Yn erbyn y Ffactore' - hunangofiant Non Evans; 'Cofion Gorau' - bywgraffiad Tony ac Aloma a 'Hunan-anghofiant' - hunangofiant y cerddor a'r cyflwynydd Brychan Llŷr.
Ei ddiddordeb mawr oedd gwaith y bardd Dylan Thomas ac yn ei flynyddoedd diwethaf bu'n gweithio i The Birthplace gan addysgu ymwelwyr am y bardd ac roedd e yn y broses o ysgrifennu cyfrol ar fywyd cynnar Dylan Thomas yn Abertawe.
Ef hefyd oedd awdur y gyfrol 'Yn Erbyn y Gwynt' sef cofiant i Carwyn James ac ysgrifennodd gofiant i gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Ysgrifennodd hefyd nifer o gyfrolau yn y gyfres Stori Sydyn - yn eu plith 'Llais yr Adar Gleision'. 'Fyny gyda'r Swans' a 'George North'.
Yn Saesneg ysgrifennodd gyfrol ar wleidydiaeth Cymru yn yr 80au, un arall ar ddatganoli a chyfrol gyda'r ddau refferî - Nigel Owens a Derek Bevan.
Roedd hefyd yn awdur nofel sef 'Talcen Caled' ac yn gyfrannwr cyson i'r cylchgrawn Golwg a chylchgronau eraill.
Wedi ei addysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel ac Ysgol y Bechgyn yn Llanelli cafodd radd yn y Dyniaethau yng Ngoleg Polytechnig Pontypridd - fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd.
Yn ystod ei flynyddoedd diwethaf roedd yn byw yng Nghaerdydd.
Roedd yn fab i'r diweddar hanesydd, y Parchedig Noel Gibbard ac mae'n gadael ei fam Helen a dwy chwaer Menna a Nia a'u teuluoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.