Sports Direct yn ymchwilio i honiad am wahardd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Sports Direct yn ymchwilio i lythyr sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol am eu polisi iaith.
Mae'r ddogfen - gafodd, yn ôl adroddiadau, ei harddangos yn eu siop ym Mangor - yn dweud mai Saesneg ydy iaith swyddogol y cwmni a bod angen i staff siarad â'i gilydd yn yr iaith honno yn y gwaith.
Ond mae'r cwmni yn ganolog wedi gwadu bod gwaharddiad ar siarad Cymraeg nac unrhyw iaith arall.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau ei bod yn ymchwilio i'r honiadau.
'Siarad Saesneg drwy'r amser'
Mae'r llythyr honedig o siop Sport Direct Bangor, gafodd ei gyhoeddi ar Twitter, yn dweud bod "rhai aelodau o staff yn siarad ieithoedd ond Saesneg tra'n gwneud eu dyletswyddau".
Yn ôl y ddogfen mae'n "rhaid i staff siarad Saesneg drwy'r amser yn y gwaith.... gan gynnwys unrhyw sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith."
Ond yn eu datganiad, dywedodd Sports Direct bod y fath bolisi iaith ddim yn bod ac nad oedd y cwmni'n ganolog wedi gosod y gorchymyn ar siop Bangor nac unrhyw gangen arall.
"Mae Sports Direct yn fusnes rhyngwladol, sy'n gweithio mewn nifer o awdurdodaethau", meddai llefarydd.
"Rydym yn annog defnydd o'r iaith gynhenid a bydden ni fyth yn gorchymyn i'n staff beidio gwneud hynny.
"Dydy cyfyngu ar y defnydd o'r Gymraeg nac unrhyw iaith arall ddim yn bolisi gan y cwmni."
Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn ymchwilio i'r honiadau.
Ar Twitter, dolen allanol, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg y bydd ei swyddfa'n ymchwilio hefyd.
"Yn dilyn yr honiadau am bolisi iaith Sports Direct, mae'r Comisiynydd wedi rhoi cyfarwyddiadau i'w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011."