Ffrae am 'fuddsoddiad' iechyd dannedd £1.3m
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi codi am ariannu cleifion deintyddol newydd ar y GIG yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n creu 10,000 o lefydd newydd mewn practisau deintyddol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru gyda'r arian.
Ond yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), dyw'r buddsoddiad o £1.3m mewn gwasanaethau deintyddol ddim yn gwneud iawn am doriadau i gyllideb yn y maes, gan honni bod y ffigwr yn chwarter o'r £6.6m gafodd ei dynnu o'r gyllideb ddeintyddol yn 2016.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru mai nid nhw ond byrddau iechyd sy'n gyfrifol am dynnu arian o'r gyllideb ddeintyddol er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
'Cyfrif creadigol'
Mae'r arian gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth i fod yn rhan o becyn buddsoddi ehangach i ddatblygu gwasanaethau deintyddol newydd.
O'r £1.3m, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cael £450,000, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael £300,000 a bydd buddsoddiad hefyd mewn gwasanaethau arbenigol i blant.
Ond dywedodd Katrina Clarke o'r BDA yng Nghymru bod mwy o arian yn cael ei dynnu o'r gyllideb ddeintyddol ac felly mai nid buddsoddiad newydd, mewn gwirionedd, ydy hwn.
Maen nhw'n dweud bod yr arian hwnnw'n cael ei symud o faes deintyddiaeth gan fod rhai deintyddion yn "methu rhai targedau anodd gafodd eu gosod yn eu cytundebau".
"Bob blwyddyn mae'r arian sy'n cael ei ddosbarthu i ddeintyddiaeth yn y GIG wedi ei ddefnyddio i ddod â dau ben llinyn ynghyd," meddai Ms Clarke.
"Nid yw cyfrif creadigol yn fuddsoddiad newydd.
"Y peth gorau all Llywodraeth Cymru ei wneud yw ymrwymo i sicrhau bod yr holl arian sy'n cael ei roi i ddeintyddiaeth yn cael ei wario ar wella iechyd plant ac oedolion Cymru."
'Buddsoddiad newydd ydy hwn'
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn anghytuno gyda sylwadau'r BDA, ac mai "buddsoddiad newydd ydy hwn" a'i bod hi'n "siomedig nad ydy'r BDA yng Nghymru yn gweld hynny nac yn adlewyrchu'r wir sefyllfa yng Nghymru.
Ychwanegodd: "Os ydy cytundeb deintyddol yn tanberfformio mwy na phump y cant, mae dyletswydd gyfreithiol ar y bwrdd iechyd i adfeddiannu'r cyfanswm sydd heb ei ddelifro.
"Mewn nifer o achosion, mae'r cyllid sy'n cael ei adfeddiannu yn cael ail-fuddsoddi'n syth mewn rhan arall o wasanaethau deintyddiaeth y bwrdd iechyd.
"Mae unrhyw adnodd sy'n cael ei adfeddiannu yn sgil tanberfformio deintyddol cytundebol yn aros gyda'r bwrdd iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2017