Gwasanaeth awyr Caerdydd i Lundain yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Flybe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaethau wedi rhedeg am tua blwyddyn pan fyddan nhw'n dod i ben

Fe fydd y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Llundain yn dod i ben ym mis Hydref.

Dechreuodd yr hediadau ym mis Medi 2016 pan oedd gwaith ar Dwnnel Hafren yn amharu ar wasanaethau trên.

Wedi i'r gwaith ddod i ben, cyhoeddodd Flybe y bydd y cyswllt awyr yn parhau.

Ond lai na blwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n dweud nad ydy'r gwasanaeth yn gynaliadwy.

Mewn datganiad, dywedodd Vincent Hodder o Flybe fod y cwmni'n dal i fod yn "driw i Faes Awyr Caerdydd" ac y byddan nhw'n "dal i chwilio am gyfleoedd i ehangu" ar y safle.

Bydd yr awyren olaf rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain yn hedfan ar 27 Hydref.