Brexit yn 'ffordd newydd o feddwl am wleidyddiaeth'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n amhosib rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd ond mae realiti Brexit reit wrth ein traed," yn ôl arbenigwr gwleidyddol blaenllaw o Brifysgol Caerdydd.
Mewn darlith o'r enw Cymru, Y Cymry a Brexit, Yr Athro Richard Wyn Jones oedd yn cyflwyno'r dadansoddiad manwl cyntaf ar Faes yr Eisteddfod o'r hyn ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y refferendwm ar yr UE.
Dywedodd yr Athro Jones fod Brexit yn "ffordd newydd o feddwl am wleidyddiaeth Cymru drwyddi draw" a bod canlyniad y bleidlais yng Nghymru wedi bod yn "sioc i lawer".
Daeth i'r casgliad hefyd fod nifer o gamgymeriadau o ran rhagdybiaethau a rhagfarnau pobl yn dilyn y canlyniad.
Hunaniaeth
Wrth sôn am y bleidlais yng Nghymru ble wnaeth 854,572 (52.5%) o bobl bleidleisio o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) oedd am aros dywedodd fod pobl yn barod iawn i ddehongli'r canlyniad yng Nghymru ar "ragdybiaethau a rhagfarnau" a bod pobl hyd heddiw heb dderbyn y canlyniad a bod pobl yn teimlo'r un fath, blwyddyn wedi'r etholiad.
Drwy gydol ei ddarlith roedd yn gosod pwysigrwydd ar osod etholwyr i mewn i 'grwpiau hunaniaeth ar sail y bleidlais i adael yr UE' gan ddefnyddio data gafodd ei gasglu gan y British Election Survey gyda 2000 o ymatebwyr yng Nghymru.
'Dileu datganoli'
Doedd dim syndod meddai fod y bobl ar ochr Gymreig y sbectrwm "eisiau mwy o ddatganoli ac eithaf tipyn eisiau annibyniaeth," ond roedd y grŵp Cymry Prydeinig "hefyd yn gefnogol o ddatganoli er i'r rhan fwyaf bleidleisio i adael yr UE mae nifer hefyd eisiau mwy o ddatganoli," meddai.
Ychwanegodd: "Mae hi'n gamgymeriad i feddwl fod y Cymry Prydeinig wnaeth bleidleisio i adael yr UE yn erbyn datganoli i Gymru. Ac ar y llaw arall i feddwl fod y bobl yn y grŵp Prydeinig Saesneg, fod y rhan fwyaf eisiau dileu datganoli."
Gyda sawl un yn pryderu am y dyfodol wrth i drafodaethau Brexit barhau ychwanegodd yr Athro Jones fod y "dehongliad apocalyptaidd" (fod popeth ar ben) ddim yn gwneud synnwyr.
"Mae hi'n anghywir i feddwl mai rŵan ein bod ni am gael gwared ar Ewrop fe allwn ni hefyd gael gwared ar ddatganoli a mynd yn ôl i'r dyddiau da 1957.
"Tydi hynny ddim yn gwneud synnwyr i mi. Mae'r darlun yn gymhleth tu hwnt ac yn llawer rhy simplistic i benderfynu fod rhai o'n cyd Gymry wnaeth benderfynu ei bod hi'n briodol i'r DU adael yr UE yn teimlo hefyd fod angen cael gwared â datganoli."
Er bod Brexit hyd heddiw yn hollti barn, ychwanegodd nad yw barn yr etholwyr wedi newid ers y refferendwm.
"Tydi'r bobl oedd yn credu bod gadael yn drychinebus, eu bod nhw rŵan yn dechrau gweld arwyddion gobeithiol a'r rhod yn troi yn rhywle ddim yn bodoli. Mae pobl dal i deimlo'n un peth heddiw," meddai.
"Mae hi'n amhosib rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd, ond mae deall y grwpiau hunaniaeth yma yn cynnig ffordd o wneud synnwyr o beth sy'n mynd ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2016