Cwpan y Byd: Cymru i wynebu Bosnia a Herzegovina yn y gemau ail gyfle

Harry Wilson a David BrooksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os yw Cymru yn ennill y rownd gynderfynol, fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina gartref yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026.

Fe fydd carfan Craig Bellamy yn croesawu Bosnia a Herzegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 26 Mawrth 2026.

Os ydyn nhw'n llwyddo i ennill y gêm honno, bydd Cymru wedyn yn chwarae yn erbyn yr enillydd o'r gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn cael ei gynnal ar nos Fawrth, 31 Mawrth.

Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Cymru 7-1 Gogledd Macedonia

Roedd Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle oherwydd eu llwyddiant yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ond roedd y fuddugoliaeth o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia nos Fawrth yn ddigon i sicrhau eu bod yn gorffen yn ail yn grŵp J ac felly yn saff o chwarae gartref yn y rownd gynderfynol.

Drwy'r gemau ail gyfle lwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar yn 2022 - a hynny ar ôl curo Awstria ac Wcráin yng Nghaerdydd.

Fe fydd grwpiau Cwpan y Byd 2026 yn cael eu dewis ar 5 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.