Urddo aelodau newydd i'r Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau newydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.
Yn eu plith roedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol George North, yr hyfforddwr pêl-droed Osian Roberts, a'r cyflwynydd radio a theledu Nia Roberts.
Rhai o'r unigolion eraill gafodd eu hurddo oedd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes a Wynfford Elis Owen, sy'n adnabyddus am chwarae cymeriad Syr Wynff yn y gyfres deledu Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.
Cafodd yr ymgyrchydd canser, Irfon Williams, a fu farw ym mis Mai, hefyd ei urddo.
Roedd teyrnged deimladwy iddo yn ystod y seremoni a daeth ei wraig, Rebecca i'r llwyfan i dderbyn tystysgrif ar ei ran.
Ei enw gorseddol oedd Irfon o'r Hirael.
Roedd rhaid cynnal y seremoni yn y babell ddawns oherwydd y tywydd garw.
Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol er mwyn cydnabod unigolion ym mhob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a'u cymunedau lleol.
'Profiad anhygoel'
Ymhlith y rhai eraill oedd yn cael eu hurddo ddydd Gwener oedd cyn bostfeistres Tegryn, Crymych a Hendy Gwyn ar Daf Jean Parri Roberts, y cyfeilydd, beirniad a hyfforddwr Jeanette Massocchi, ac un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern sy'n byw yn Seland Newydd erbyn hyn, June Moseley.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes wedi'r seremoni: "Roedd hi'n ffantastig bod yma heddiw…
"Roedd o'n brofiad anhygoel, y peth mwyaf nerfus oedd mod i'n mynd gyntaf!"
Ychwanegodd Osian Roberts sydd yn frodor o Fôn: "Roedd o'n brofiad anhygoel, yn reit emosiynol i fi, i'r ddau ohona ni.
"Mae 'na gefndir teuluol i mi, mae fy nhad a'n ewythr yn aelodau o'r orsedd.
"Mae 'di bod yn brofiad neis iawn, a rhywbeth unwaith eto i gofio am yr Euros blwyddyn dwytha er bod hi sbel yn ôl bellach."
Syr Wynff ap Concord y Bos
Dewisodd Wynfford Elis Owen yr enw Syr Wynff ap Concord y Bos fel ei enw gorseddol ac roedd bloedd o chwerthin pan gafodd yr enw ei gyhoeddi.
"Mae llawer o bobl yn fy 'nabod i felly, hwnna oedd yr enw addas a fedrwn i ddim dewis dim byd arall!"
Ychwanegodd ei fod yn teimlo "anrhydedd" i gael bod yn rhan o'r Orsedd.
"Dwi 'di neud lot o waith yn y cyfryngau fel Syr Wynff, dramâu ac yn y blaen, ond dwi'n meddwl mai'r neges bwysig yn hon ydy mod i'n un sydd wedi adfer o alcohol a chyffuriau.
"Mae'n anfon neges bositif a cadarnhaol allan i bobl fatha fi bod hi'n bosib integreiddio a chwarae rhan llawn 'nôl yn y gymdeithas Gymreig."
Dywedodd George North, a gafodd ei fagu yn Ynys Môn ac aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern, cyn y seremoni ei fod wrth ei fodd cael ei urddo.
"Mae'n enfawr. Roeddwn i'n siarad gyda Robin [McBryde] am y peth, mae'n beth mawr i'r Eisteddfod a pheth mawr i Gymru."
Dywedodd ei fod wedi trafod y diwrnod gyda'i gyfoedion yn nhîm rygbi Northampton.
"[O'n i] yn cael sgwrs gyda Jim Mallinder [prif hyfforddwr Northampton] i drio deutha fo beth oedd y Steddfod, oedd o'n cymryd bach o amser!
"I fi, dwi mor prowd i gael e, a hapus i fod yma heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd10 Awst 2017