Clwb Abertawe: 'Agos iawn' at gytundeb am y Liberty
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall bod Clwb Pêl-droed Abertawe yn "agos iawn" at gwblhau cytundeb i gymryd perchnogaeth o Stadiwm Liberty.
Mae perchnogion newydd yr Elyrch o'r Unol Daleithiau wedi bod mewn trafodaethau gyda chyngor y ddinas, perchnogion presennol y safle.
Roedd Cyngor Abertwe wedi adeiladu'r Liberty ar gost o £27m.
Mae'r safle wedi bod yn gartref i'r Elyrch a thîm rygbi'r Gweilch ers 2005, gan dalu rhent bychan i'r cwmni rheoli sy'n rhedeg y safle.
Cyfarfodydd cynhyrchiol
Fe allai cytundeb lês 30 mlynedd gael ei arwyddo dros yr wythnosau nesaf, fyddai'n caniatáu i'r clwb chwilio am gyfleon masnachol.
Gallai hynny olygu hawliau enwi'r stadiwm, ac ehangu'r maes sydd ar hyn o bryd yn dal 21,000 o gefnogwyr.
Roedd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart wedi dweud nad oedd Cwmni Rheoli Stadiwm Abertawe, sydd mewn partneriaeth gyda'r cyngor a'r clybiau pêl-droed a rygbi, yn addas i'w bwrpas yn dilyn llwyddiant a thwf y ddau glwb.
Wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaen dywedodd: "Rydym wedi cael cyfres o gyfarfodydd cynhyrchiol iawn, ac yn agosáu at gytundeb fyddai'n gweithio i bawb.
"Dwi'n gobeithio y gallwn ni ddod â'r trafodaethau yna i fwcwl yn fuan."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Abertawe: "Mae trafodaethau yn parhau gyda'r cyngor. Er mae yna dipyn o fanylion i'w cytuno."
Bydd yr Elyrch yn cychwyn tymor newydd yr Uwch Gynghrair yn Southampton ddydd Sadwrn.