Y digrifwr Gethin Thomas wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gethin ThomasFfynhonnell y llun, Nick Edwards/RIG

Yn 49 oed bu farw'r digrifwr a'r cynhyrchydd teledu a radio Gethin Thomas.

Yn enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr, roedd yn un o nifer o ddigrifwyr blaenllaw aeth ati i ddatblygu comedi stand-yp yn Gymraeg yn ystod y 1990au, ac roedd yn enw cyfarwydd mewn nosweithiau comedi ar hyd a lled Cymru.

Dechreuodd ei yrfa gomedi yn 1991 drwy gynnal nosweithiau yng Nghaerdydd, ac roedd yn gyfrifol am ysgrifennu sgriptiau comedi ar gyfer radio a theledu.

Un oedd yn gyfaill iddo oedd y digrifwr Gary Slaymaker. Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae ei ddylanwad yn fawr ar gomedi Cymraeg. Fe wnes i ei gyfarfod yn gyntaf yn yr hen Dempseys yng Nghaerdydd pan ddywedodd ei fod yn dechrau cynnal nosweithiau comedi Cymraeg.

'Crwsâd comedi'

"Fe aethon ni allan ar ein taith gyntaf fel criw ar ddechrau'r 90au mewn fan - fel Musketeers comedi Cymraeg. Roedd bron yn grwsâd i Geth i greu comedi newydd. Ar y pryd roedd llawer o'r comedi yn hen ffasiwn ac roedd stand-yp yn torri drwodd yn America a Lloegr.

"Fe aethon ni ar ddwy daith ac yn sgil hynny fe gawsom ni ein cyfres gyntaf ar S4C sef 'Gwneud e'n sefyll lan.' Er i ni gyd fynd i gyfeiriadau gwahanol yn y pen draw, fe oedd yr un llais oedd yn cadw'r stand-yp i fynd, ac ers hynny 'da ni wedi gweld to newydd o gomediwyr yn torri drwodd.

"Mae arno ni ddyled i Geth am ddyfalbarhau...roedd yn un o'r golygyddion comedi gorau dwi wedi ei weld - roedd yn deall hinsawdd a strwythr joc yn well na neb. Roedd yn gallu rhoi strwythur gwell i joc na'r un oedd gen i'n barod."

Bu'n gweithio'n ddiweddar gyda nifer o ddigrifwyr ar eu deunydd newydd, yn cynnwys y digrifwr Elis James.

Cyfarwyddwr

Yn gyfarwyddwr ar gwmni teledu Zeitgeist Entertainment, roedd yn aelod o gyngor Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) ers 2009.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Iestyn Garlick, cadeirydd TAC: "Rydyn ni fel corff, a'r sector cynhyrchu annibynnol ehangach, yn estyn cydymdeimlad dwys i deulu, cydweithwyr a chyfeillion Gethin ar adeg affwysol o drist.

"Roedd ei gyfraniad at fyd comedi Cymru, a'i bortread ohono ar radio a theledu, yn un gwerthfawr y byddwn yn cofio amdano â hoffter a gwên.

"Roedd Gethin yn ddyn brwdfrydig a bywiog, ac mi fydd colled fawr ar ei ôl."

Ffynhonnell y llun, Zeitgeist
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Thomas (chwith) yn gweithio gyda'r digrifwr Elis James ar ei sioe ddiwethaf yn y Gymraeg, Rhacs Jibiders.

Bu Gethin Thomas yn gyfarwyddwr ar y Radio Independents Group, corff sy'n cynrychioli cwmniau radio annibynnol, am nifer o flynyddoedd.

Dywedodd sylfaenydd RIG, Mike Hally: "Mae marwolaeth Gethin yn sioc anferth i ni i gyd. Roedd yn llais cryf ar ran cynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru am flynyddoedd maith, fel aelod o'r RIG.

"Fe wyddon ei fod yn uchel ei barch fel perfformiwr a chynhyrchydd comedi, a hefyd wrth gynhyrchu ystod o raglenni radio a theledu. Fe wnaeth lawer i ddatblygu'r ffordd y mae BBC Cymru a Radio Cymru yn gweithio gyda chwmnïau annibynnol, ac fe fydd yn cael ei gofio gan lawer yn ddiolchgar am hynny."

Wrth gofio am ei gyfraniad meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Roedd cyfraniad Gethin i'r byd comedi Cymraeg yn allweddol ac arloesol, gan roi llwyfan i ddatblygu talentau stand yp yn yr iaith Gymraeg am flynyddoedd lawer.

"Roedd yn angerddol ac yn flaengar dros gomedi. Mae diolch mawr iddo am ei gyfraniad gwerthfawr ac rydym yn cydymdeimlo gyda'r teulu."