Sêr ifanc Spotify

  • Cyhoeddwyd
Catrin a Gethin - Dusky GreyFfynhonnell y llun, Jenna Foxton

Trac yr Wythnos BBC Introducing yr wythnos hon ydy 'Call Me Over' gan Dusky Grey. Dim byd Cymreig neu Gymraeg am hynny meddech chi - ond mae'r cliw yn yr enw... mewn rhyw ffordd.

"Oedd pobl yn galw fi'n 'Dusky' yn ysgol achos dyna be' ma' Gethin yn feddwl," eglurai Gethin Llwyd Williams, canwr 20 oed, sy'n wreiddiol o Riwlas. "Wedyn Llwyd yn amlwg yn mynd yn Grey... Dusky Grey."

Be' bynnag wnewch chi o'r enw, does 'na ddim dadlau efo'r ffigyrau.

Mae sengl gyntaf y band, Told Me, wedi'i ffrydio dros 9 miliwn o weithiau ar Spotify, a'r sengl ddiweddaraf yn dynn ar ei sodlau ar ôl mynd heibio'r miliwn.

Catrin Hopkins, sydd hefyd yn 20 oed ac yn dod o Gaernarfon, ydy hanner arall y ddeuawd sy'n prysur wneud enw iddyn nhw'i hunain.

"Ddaethon ni at ein gilydd flwyddyn dwytha," meddai Gethin, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen. "Dyma Catrin yn Facebook-io fi achos oedd hi'n canu ac yn sgwennu caneuon hefyd.

"Dyma ni'n dechra' sgwennu caneuon a ddim yn hir ar ôl hynna dyma ni'n recordio Told Me efo Rich Roberts yn stiwdio Ferlas a'i rhoi hi ar bob platfform oedd yn mynd.

"O fewn wythnos roedd Spotify wedi'i rhoi hi ar un o'i playlists nhw ac wedyn ga'th hwnna traction da.

"Oedd o'n massive shock. Oedd o'n nuts. Oeddan ni'n dau yn y brifysgol ar y pryd a oeddan ni jyst wedi penderfynu rhyddhau'r gân achos, wel, pam ddim? O fewn dim oedd ganddo ni emails yn dod mewn gan bawb - Warner, Universal, Sony. Oedd o'n really surreal."

'Cadw'r momentwm'

O fewn ychydig wythnosau i ryddhau'r gân gyntaf, ym mis Tachwedd y llynedd fe arwyddodd y ddau gyda label East West Records o dan ymbarél Warner Music Group.

"Syth ar ôl i ni gael ein seinio 'naetho ni benderfynu rhoi bob munud i mewn i'r miwsig felly 'naetho ni adael y brifysgol."

Er eu bod nhw wedi perfformio fersiwn Gymraeg o 'Told Me' ar raglen Heno, dolen allanol y llynedd, does 'na ddim bwriad i sgwennu caneuon yn eu mamiaith ar hyn o bryd.

"Dwi'n meddwl y bysa' ni pan mae'r amsar yn iawn," meddai Gethin. "'Da ni'n sgwennu caneuon bob dydd yn y tŷ 'da ni'n rhannu efo'n gilydd ym Mangor.

"'Da ni am drio'n gora' a gweld be' sy'n digwydd. 'Da ni ddim isio cymryd oesoedd i ryddhau'r caneuon achos 'da ni isio cadw'r momentwm i fynd."

Hefyd gan y BBC