Cynllun i ddymchwel tai i wella ansawdd llygredd aer
- Cyhoeddwyd
Gallai tai gael eu dymchwel a ffordd osgoi gael ei adeiladu o dan gynlluniau i wella ansawdd aer ardal yng Nghymru sydd â'r lefelau uchaf o lygredd aer yn y DU.
Yn 2015 ac yn 2016 roedd lefel nitrogen deuocsid ar yr A472 yn Hafodyrynys yng Nghrymlyn yn Sir Caerffili yn uwch nag unrhyw le arall ar wahân i ganol Llundain.
Roedd y lefel hefyd yn uwch na'r lefelau derbyniol gan Fudiad Iechyd y Byd.
Mae Cyngor Caerffili yn ymgynghori ar gynlluniau i wella ansawdd yr aer.
Mae cynllun drafft Cyngor Caerffili yn cynnwys sawl argymhelliad ar leihau'r nitrogen deuocsid yn yr ardal, sy'n cynnwys:
Cynllun pryniant gorfodol ar gartrefi yn Nheras Woodside er mwyn eu dymchwel, a thrwy hynny atal llygredd rhag gwaethygu yn yr ardal;
Adeiladu ffordd osgoi un ffordd er mwyn lleihau 12% o draffig sy'n teithio i'r de ar ffordd yr A467;
Adeiladu ffordd osgoi dwy ffordd i leihau 25% o draffig;
Arafu cerbydau, a/neu gyflwyno camera cyflymder er mwyn annog traffig i lifo yn fwy llyfn;
Annog mwy o deithio effeithlon o fewn yr ardal, gan gydweithio gyda busnesau, ysgolion a'r cyngor;
Cynnal asesiad effaith ar ansawdd yr aer ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol allai arwain at fwy o draffig.
Opsiynau eraill sy'n cael eu hystyried yw ail-gyfeirio loriau trwm HGV o'r ardal ac annog cwmnïau bysiau i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel.
Fe allai arwyddion gael eu gosod hefyd yn gofyn i fodurwyr ddiffodd yr injan wrth aros ger goleuadau traffig.
Mae'r cyngor hefyd yn ystyried hyrwyddo defnydd trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd.
Fe ddaw'r argymhellion wrth i flwch monitro llygredd aer ar yr A472 ger Swffryd gofnodi lefelau yn uwch nag unrhyw le arall yn y DU oni bai am ar Marylebone Road yn Llundain.
Roedd y lefelau yn uwch na'r blychau fu'n cofnodi llygredd awyr ym Mhort Talbot, Caerdydd ac Abertawe.
Mae tua 21,400 o gerbydau yn defnyddio'r ffordd pob dydd, ac o ganlyniad fe gafodd yr ardal ei chofnodi yn Ardal Rheolaeth Ansawdd Aer ym mis Tachwedd 2013.
Yn ôl Martin Brown, wnaeth brynu ei dŷ yno 48 mlynedd yn ôl, mae'r tagfeydd traffig yn "annioddefol" ac mae hi "bron yn amhosib croesi'r ffordd".
"Mae'r traffig yma trwy'r dydd, bob dydd. Mae'r ffordd fel trac rasio ac mi fydd rhywun yn cael ei lladd yn croesi'r ffordd," meddai.
Dywedodd Barbara Smith sydd hefyd yn byw yn yr ardal: "Dwi'n gweld pobl yn peryglu eu bywydau yn ceisio croesi'r ffordd. Mae'r sŵn a'r llygredd aer yn anghredadwy."
Ymgynghoriad
Dywedodd y cynghorydd Eluned Stenner, aelod cabinet ar yr amgylchedd ac amddiffyn y cyhoedd: "Gyda chefnogaeth y gymuned leol a gyda'n partneriaid, i ni wedi ein hymrwymo i wneud popeth posib i wella sefyllfa'r ansawdd aer, a dwi'n annog y bobl sy'n byw yna i ddweud eu dweud ar gynnwys y cynllun gweithredol drafft, a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad."
Bydd yr ymgynghoriad ar agor nes 31 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017