Galw am ymddiswyddiad golygydd rhaglen Newsnight
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ymddiswyddiad golygydd rhaglen Newsnight yn dilyn ei ymateb i gwynion am eitem ynglŷn â'r iaith Gymraeg ar y rhaglen.
Fe wnaeth golygydd y rhaglen Ian Katz ymateb i gwynion am eitem oedd yn gofyn 'a ydi'r Gymraeg yn help neu'n rhwystr i'r genedl?' Drwy ddweud "there is a whiff in some of the response to our item of an unwillingness to even countenance such an impertinent question."
Mae Cymdeithas yr iaith wedi galw ei lythyr yn "fychanol".
Mae'r BBC yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhywbeth i ychwanegu at yr ymateb maen nhw eisoes wedi ei roi i gwynion am y rhaglen.
Fe oedd y llythyr yn ymateb i gŵyn uniongyrchol gan Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd, Arfon Jones.
Yn ei lythyr (Cymraeg) at Ian Katz, fe ddywedodd Arfon Jones fod y rhaglen yn "blentynnaidd, bychanol ac anghyfrifol".
Cafodd ateb ar e-bost yn gofyn: "Did you mean to send it to me in Welsh? If so, you'll appreciate that I won't be able to reply till I have had it translated."
A phan ddaeth ateb pellach, mae Arfon Jones yn dweud fod tôn y llythyr yn nawddoglyd.
Yn yr ateb mae Ian Katz yn dweud: "We should have approached it with more subtlety, I agree, but there is a whiff in some of the response to our item of an unwillingness to even countenance such an impertinent question."
Mae o'n gorffen drwy ddweud: "Thanks for taking the trouble to write. I'm sure you must be a very busy man."
'Dienaid'
Mae Arfon Jones yn teimlo fod yr ymateb yn y llythyr yn un "pitw a dienaid" ac mae'n disgrifio'r ymateb fel un "sefydliadol Prydeinig".
Cafodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ddwy sgwrs ffôn gydag ymchwilydd Newsnight gan gynnig ei hun fel gwestai.
Ond mae Ian Katz yn dweud nad oedd neb o'r mudiad ar gael neu eu bod nhw wedi gwrthod ymddangos.
Dywedodd Heledd Gwyndaf fod y llythyr yn "fychanol" ac yn "rhan o batrwm gan y BBC o fychanu Cymru a'r iaith Gymraeg."
Mae'r BBC yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhywbeth i ychwanegu at yr ymateb maen nhw eisoes wedi ei roi i gwynion am y rhaglen.
Mae'r BBC wedi dweud y byddai'r eitem wedi elwa o gael siaradwr Cymraeg "gyda gwybodaeth o'r maes dan sylw" ac maen nhw'n cydnabod y pryder am bennawd y rhaglen.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn trefnu taith i Gymru i un o uwch gynhyrchwyr Newsnight fis nesaf, a fydd, medd Ian Katz, yn galluogi'r rhaglen o bosib i ddechrau trafodaeth arall o safle gwell.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2017
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017