TGAU: Disgwyl canlyniadau is mewn pynciau craidd

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau

Fe fydd miloedd o ddisgyblion yn derbyn canlyniadau TGAU heddiw, mewn cyfnod o newid sylweddol i'r cymwysterau.

Mae'r rheoleiddiwr cymwysterau wedi dweud bod hi'n debygol y bydd canlyniadau mewn rhai pynciau craidd yn is eleni oherwydd bod mwy o ddisgyblion iau wedi sefyll yr arholiadau.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i chwe chwrs TGAU newydd gael eu harholi.

Fe fydd disgyblion Cymru yn parhau i dderbyn graddau A* i G wrth i'r drefn newid yn Lloegr ar gyfer rhai pynciau.

Arholiadau'r haf oedd y tro cyntaf i ddisgyblion sefyll TGAU newydd mewn Cymraeg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth.

Mae yna gymhwyster mathemateg ychwanegol wedi ei gyflwyno hefyd fel bod disgyblion bellach yn cymryd dau TGAU mathemateg - Mathemateg a Mathemateg: Rhifedd.

'Blwyddyn arwyddocaol'

Mae'r corff sy'n goruchwylio cymwysterau - Cymwysterau Cymru - wedi rhybuddio bod newidiadau i batrwm y ceisiadau ar gyfer TGAU eleni yn debygol o effeithio ar y canlyniadau.

Yn ôl Emyr George sy'n gyfrifol am TGAU i Gymwysterau Cymru, mae hon "yn flwyddyn reit arwyddocaol".

"Mae 'na hanner dwsin o gymwysterau TGAU newydd yn mynd i gael eu dyfarnu am y tro cyntaf ac mae'r rhain yn gymwysterau sydd wedi eu dylunio'n arbennig ar gyfer dysgwyr yma yng Nghymru", meddai.

Yn ogystal, mae'n dweud eu bod wedi gweld "cynnydd mawr yn nifer y disgyblion sy'n sefyll eu harholiadau nhw'n gynnar ar ddiwedd blwyddyn 10 yn hytrach nag ar ddiwedd blwyddyn 11".

"Ry ni wedi gweld twf o ryw 40% yn y nifer o ddisgyblion blwyddyn 10 sydd wedi sefyll eu harholiadau nhw eleni a fydd yn derbyn canlyniadau ar yr un pryd a'u cyfoedion nhw ym mlwyddyn 11 haf yma", meddai.

"Mae hynna yn mynd i gael effaith ar y canlyniadau ar gyfer arholiadau a safwyd haf yma".

Roedd yna 334,100 o geisiadau ar gyfer TGAU haf eleni - i fyny o 303,620 llynedd.

Yn ôl Cymwysterau Cymru, mae'r cymhwyster Mathemateg ychwanegol a chynnydd yn y ceisiadau gan ddisgyblion blwyddyn 10 yn bennaf esbonio'r twf.

Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y disgyblion Blwyddyn 10 gofrestrodd ar gyfer Saesneg Iaith - 21,090, sef tua 65% o ddisgyblion y flwyddyn ysgol honno.

Mae'n ymddangos mai dyma'r brîf reswm pam fod cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer Saesneg Iaith wedi cynyddu i 59,050 eleni, sydd 24,000 yn uwch na llynedd.

Heriol

Mae diwygiadau sylweddol wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr hefyd ac am y tro cyntaf eleni fe fydd Saesneg a Mathemateg yn cael eu graddio gyda rhifau o 9 lawr i 1.

O ganlyniadau i'r newidiadau, mae cymharu perfformiad gwahanol rannau o'r DU yn fwy heriol eleni.

Tra bod gan yr Alban drefn wahanol, mae Gogledd Iwerddon hefyd yn cadw graddau TGAU A* i G er y bydd rhai disgyblion yn derbyn graddau 9 i 1.

Mae'r rheoleiddiwr yn pwysleisio bod y cymwysterau yn parhau i fod yn gyfwerth ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod wedi bod yn cydweithio gyda'r cyrff dyfarnu a rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod y canlyniadau "yn rhai teg, ac yn rhai allith disgyblion fod yn hyderus eu bod yn adlewyrchu eu hymdrechion nhw a'u cyraeddiadau nhw yn gywir".