TGAU: Canlyniadau A*-C ar ei lefel isaf ers 2006
- Cyhoeddwyd
Mae'r canran o ddisgyblion yng Nghymru cafodd graddau A* i C yn eu TGAU wedi cwympo i'r lefel isaf ers 2006, yn dilyn newidiadau mawr i'r system arholiadau.
Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau taw cynnydd yn y nifer o ddisgyblion 15 oed wnaeth sefyll arholiadau eleni oedd y prif reswm am y dirywiad.
Fe gwympodd y canlyniadau A*-C i 62.8%, a hynny'n dilyn tair blynedd pan oedd y canran yn 66.6%.
Mae'r canran o farciau uchaf A*-A wedi gostwng hefyd, o 19.4% llynedd i 17.9% eleni.
Newidiadau
Mae'r newidiadau yn y patrymau cofrestru, yn enwedig i rai 15 mlwydd oed, a'r defnydd o 'gyfres Tachwedd' i sefyll arholiadau Mathemateg a Rhifedd wedi effeithio'n sylweddol ar y canlyniadau, medd Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.
Mae'r effaith mwyaf i'w weld yn y niferoedd sydd wedi derbyn graddau A*-C yn y pwnc.
Roedd rheoleiddiwr cymwysterau wedi dweud bod hi'n debygol y bydd canlyniadau mewn rhai pynciau craidd yn is eleni oherwydd bod mwy o ddisgyblion iau wedi sefyll yr arholiadau.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i chwe chwrs TGAU newydd gael eu harholi.
Mae yna gymhwyster newydd mewn Cymraeg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth, yn ogystal â'r pwnc mathemateg ychwanegol wedi eu cyflwyno.
Roedd disgyblion Cymru yn parhau i dderbyn graddau A* i G wrth i'r drefn newid yn Lloegr ar gyfer rhai pynciau.
Mae'r corff sy'n goruchwylio cymwysterau - Cymwysterau Cymru - wedi rhybuddio bod newidiadau i batrwm y ceisiadau ar gyfer TGAU eleni yn debygol o effeithio ar y canlyniadau.
Er gwaetha'r ffaith bod gostyngiad o 2.1% wedi bod yn y grwp myfyrwyr 16 oed, mae cynnydd o 7.6% yn nifer y cofrestriadau gan ymgeiswyr.
Disgyblion A* yn parhau yr un fath
Mae nifer yr ymgeiswyr y llwyddodd i ennill graddau A* yn parhau i fod yn 6.1% eleni.
Fodd bynnag, mae canlyniadau cyffredinol cyfres yr haf ar raddau A*-A wedi gostwng 1.5 pwynt canrannol i 17.9%, ac o ran y graddau A*-C mae gostyngiad o 3.8 pwynt canrannol wedi bod, sy'n gymharol â 66.6% am y ddwy flynedd flaenorol.
Gostwng hefyd wnaeth canlyniadau disgyblion 16 oed yng Nghymru, o 1.2 pwynt canrannol i 20.2% o ran y graddau A*-A ac o 2.8 pwynt canrannol i 66.8% o ran y graddau A*-C1. Fodd bynnag, mae canlyniadau Saesneg Iaith wedi gwella.
Yng nghymwysterau TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd, adlewyrchir y canlyniadau cyffredinol yn fwyaf priodol yn y canlyniad gorau a gafwyd gan bob ymgeisydd 16 mlwydd oed ar draws cyfresi Tachwedd a haf. Fe, enillodd 60% o'r ymgeiswyr 16 oed raddau A*-C mewn Mathemateg, ac enillodd 58.5% o'r ymgeiswyr yr un grŵp oed raddau A*-C yn y pwnc Rhifedd.
Ymateb gwleidyddol
Wrth ymweld ag ysgol Cefn Saeson yng Nghastell-nedd ddydd Iau, dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg: "Nod y cymwysterau diwygiedig hyn yw darparu'r sgiliau iawn i ddisgyblion ar gyfer y byd modern.
"Fe allwn ni ymfalchïo yn y ffordd mae ein disgyblion a'n hathrawon wedi ymdopi â'r cymwysterau newydd hyn a gafodd eu cyflwyno, sy'n chwarae rôl hollbwysig yn y broses o godi safonau.
"Mae'r nifer uchel sy'n cael eu cofrestru'n gynnar ar gyfer eu harholiadau yn destun pryder imi. Dyw llawer o'r disgyblion hyn, sy'n cymryd eu harholiadau cyn cwblhau eu dwy flynedd o astudio, ddim wedi cael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Mae hyn yn rhoi pwysau diangen ar ddisgyblion ac athrawon, ac mae hefyd yn rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau ysgolion.
"Fe fydda i'n ymateb i adolygiad cyflym Cymwysterau Cymru o'r mater hwn pan ddaw i law ym mis Hydref, ond mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy ac mae angen inni ystyried yr opsiynau."
Dywedodd Ms Williams mai diben yr ailwampio radical ar y system addysg yw codi safonau a chodi dyheadau ein dysgwyr.
Tra bod Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, wedi llongyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiant, mae hefyd wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg y Cabinet, Kirsty Williams AC, i ailystyried ei diwygiad o'r cwricwlwm ysgolion.
Dywedodd: "Mae canlyniadau Lefel TGAU heddiw yn siomedig iawn ac yn nodi dirywiad o ganlyniadau'r llynedd.
"Er fy mod am ymestyn fy llongyfarchiadau i'r myfyrwyr hynny a sicrhaodd y graddau y maent yn haeddu, mae'r canlyniadau'n dangos fod gormod o ddysgwyr wedi methu â chyflawni eu potensial llawn.
"Mae cyrhaeddiad graddau A* - C wedi disgyn, ac mae'r nifer sy'n manteisio ar ieithoedd tramor modern yn arbennig o siomedig, nid yw hyn yn edrych yn dda ar gyfer rhagolygon economaidd Cymru yn y dyfodol."
Wrth longyfarch disgyblion, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd:
"Gwyddom y cymer y system newydd beth amser i ymsefydlu, a dangoswyd hyn yn y canlyniadau. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr ystyried y canlyniadau hyn a'r hyn maent yn olygu i fyfyrwyr fydd yn cymryd TGAU y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn.
"Mae Plaid Cymru eisiau gweld pob myfyriwr yng Nghymru yn cyrraedd eu potensial, ac er mwyn gwneud hyn, byddwn yn parhau i alw ar y llywodraeth i ganolbwyntio mwy ar gael myfyrwyr i mewn i addysg o'r ansawdd flaenaf o'r blynyddoedd cyntaf un, ar fonitro cynnydd myfyrwyr ac ymyrryd rhag blaen os bydd myfyrwyr yn dechrau llithro'n ôl."
Ymateb undebau
Mae undeb athrawon NUT Cymru wedi ymateb i'r canlyniadau, a dywedodd eu hysgrifennydd David Evans: "Mae athrawon, rheini ac yn bennaf oll y disgyblion yn haeddu llongyfarchiadau anferth am ganlyniadau TGAU trawiadol.
"Fe ddaw'r canlyniadau oherwydd misoedd o waith caled ac ymroddiad.
"Wrth gwrs dyma'r flwyddyn gyntaf i nifer o'r cymwysterau gael eu cyflwyno. Yn anochel bydd cyfnod o sefydlogi, ond mae hyn yn rhoi gwir faen prawf i ni fedru gwerthuso canlyniadau'r dyfodol yn eu herbyn."
Dywedodd Rex Philips, swyddog cenedlaethol Cymru gydag undeb NASUWT: "Wrth gwrs, fe fydd angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus ar y duedd gynyddol o ymgeiswyr cynnar, a 'bancio' canlyniadau sy'n ymddangos fel petai wedi cyfrannu at y perfformiad llai na chadarnhaol yma.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig ystyried gwerth y cymhwyster i'r dysgwr, ac fe ddylid llongyfarch ein disgyblion ar eu llwyddiant ar draws y graddau TGAU a gyda'r Fagloriaeth Gymreig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2017