Sicrwydd am ddyfodol gŵyl Pride am bum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl flynyddol Pride Cymru yn digwydd yng Nghaerdydd dros y penwythnos gyda disgwyl i filoedd o bobl fynychu.
Mi oedd dyfodol yr ŵyl hoyw, lesbiaid a thrawsryweddol sy'n digwydd yn flynyddol ar gaeau Coopers yn y fantol wrth i'r caeau gael ei ailosod yn dilyn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr a ddigwyddodd ym mis Mehefin eleni.
Bellach mae ymgyrch codi arian wedi sicrhau £360,000 er mwyn diogelu'r ŵyl am o leiaf bum mlynedd ar gaeau Parc Cathays.
Dywedodd cadeirydd Pride Cymru, Lu Thomas, byddai wedi bod yn "drychinebus" pe bai'r ŵyl heb ddigwydd eleni.
Lonydd ar gau
Mae mwy na 100 o sefydliadau wedi bod yn gorymdeithio drwy Stryd y Frenhines am 11:00 fore Sadwrn gyda lonydd ar gau drwy ganol y ddinas.
"Mi oedd hi'n agos at beidio digwydd eleni, mi ddaeth popeth at ei gilydd ar y funud olaf," meddai Ms Thomas.
"Gyda Chaerdydd yn brifddinas, os nad oedden ni'n gallu llwyfannu'r ŵyl mi fase hi wedi bod yn drychinebus.
"Mi fase'r neges anghywir yn cael ei anfon allan i'r gymuned LGBT nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli na'u cefnogi yng Nghymru. Rydym eisiau dod a phobl at ei gilydd i fod yn falch o bwy ydyn nhw."
Pan ddaeth sefyllfa caeau Cooper i sylw'r trefnwyr nôl ym mis Medi'r llynedd, fe lansiwyd ymgyrch i achub y digwyddiad gyda'r actor Sir Ian McKellen yn galw'r sefyllfa yn "frawychus" gan ychwanegu mai "cartref Pride yw'r brifddinas."
Lleoliad 'blaenllaw'
Yn dilyn ychydig o broblemau mae Ms Thomas yn credu bod y lleoliad newydd mewn lle "blaenllaw yng nghanol y ddinas" a fydd yn help i "gyrraedd cynulleidfa ehangach."
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bydd swyddogion i'w "gweld yn amlwg" yn y ddinas ac yn annog pobl i fynd atyn nhw i dynnu lluniau.
Ar gyfer y parêd roedd Heol Windsor a Phlas Windsor wedi cau o 8:00 tan 12:00 a fyrdd eraill gan gynnwys Ffordd y Gogledd, Ffordd Corbett, Boulevard de Nantes, Heol Fawr a Wood Street wedi cau rhwng 11:00 - 14:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2016