Gofal yng Nghymru am y tro cyntaf i bobl drawsryweddol

  • Cyhoeddwyd
Clinic
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clinig Tavistock yn Llundain yn cynnig triniaeth i bobl ifanc o Gymru a Lloegr

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd ar gyfer hunaniaeth rywedd oedolion yng Nghymru.

Drwy sefydlu gwasanaethau arbenigol am y tro cyntaf yng Nghymru, y bwriad yw y bydd pobl drawsryweddol yn gallu cael gofal yn agosach at eu cartrefi.

Ar hyn o bryd mae pobl trawsryweddol sy'n cael diagnosis yng Nghymru yn gorfod teithio i glinig arbenigol yn Llundain.

Mae Stonewall Cymru wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud bod gofal a chefnogaeth hanfodol wedi ei wrthod yng Nghymru "ers rhy hir".

Dywedodd BMA Cymru eu bod yn "falch iawn" o weld bod y llywodraeth yn mynd i'r afael gydag anghenion holistig y gymuned drawsryweddol.

Ehangu'r gofal yn y dyfodol

Yn ôl Mr Gething mae'r cynllun yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru "i wella iechyd a llesiant i bawb".

Y llynedd roedd y llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad yn ei chyllideb ddrafft i ddatblygu clinigau hunaniaeth rywedd gydag ymrwymiad o £1m tuag at sefydlu darpariaeth anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd yng Nghymru.

O fis Hydref ymlaen fe fydd tîm arbenigol, Tîm Rhywedd Cymru, yn cynnig cyngor i feddygon teulu sydd â diddordeb yn y maes, ac fe fyddan nhw yn derbyn cleifion sydd eisoes wedi dechrau cael gofal gan y clinig yn Llundain.

Y bwriad erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf yw bod y tîm yn derbyn cleifion newydd a chynnig gofal a thriniaeth i unigolion sydd ar y rhestr aros yn Llundain.

Bydd rhai sydd ag anghenion cymhleth neu eisiau llawdriniaeth i newid eu rhyw yn parhau i gael eu gweld gan arbenigwyr dros y ffin.

Y nod meddai'r llywodraeth yw cynnig gwasanaeth llawn yn y pendraw yng Nghymru.

Disgrifiad,

Mae Joe, sydd wedi bod yn cael triniaeth yn Llundain, yn croesawu'r newyddion

14 oed oedd Joe pan wnaeth hi ddweud wrth bobl ei bod hi'n berson traws.

Fe gafodd ei chyfeirio at y clinig arbenigol yn Llundain ac mae wedi bod yn mynd yno i gael triniaeth hormon a phresgripsiwn testosteron.

"Mae angen teithio i Lundain i gwrdd â doctoriaid i siarad am beth ti eisiau 'neud ond hefyd ar gyfer pethau syml fel cymryd gwaed a phethau fel na."

Mae'n credu y bydd y gwasanaeth newydd yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drawsryweddol.

"I lot o bobl, allen nhw ddim teithio i Lundain, os nad oes gyda nhw ddigon o arian neu os maen nhw ddim yn gallu cymryd amser off gwaith neu ysgol.

"Dwi'n meddwl mae e jyst yn agor lan lot o bosibiliadau i lot mwy o bobl."

Dywedodd Mr Gething bod yna gynnydd wedi bod yn y galw am ofal i bobl drawsryweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r gwasanaethau newydd rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn golygu y bydd yr holl wasanaethau ac eithrio'r rhai mwyaf arbenigol ar gael yng Nghymru cyn hir, a hynny mor agos â phosibl at gartrefi'r defnyddwyr.

"Bydd hynny'n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ofal, ac yn gwella'r profiad iddynt."

Ychwanegodd: "Mae Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth Rywedd Cymru wedi ymwneud yn agos â'r gwaith o lunio'r llwybr gofal newydd, a byddant yn parhau i gymryd rhan yn holl waith y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn dweud y bydd yn parhau i weithio yn agos gyda'r gymuned traws wrth lunio gwasanaethau

Yn ôl Stonewall Cymru mae'r cyhoeddiad yma wedi dod ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gan gymunedau traws.

"Ers rhy hir, mae mynediad at ofal iechyd a chefnogaeth hanfodol a allai achub bywydau wedi cael eu gwrthod i bobl draws yng Nghymru yn ein gwlad ein hunain", meddai Crash Wigley, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd y mudiad.

"Mae'r newidiadau yma'n cael gwared ar nifer o'r rhwystrau hynny, ac rydym yn croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i ddatblygu modelau lleol o ofal, a gwaredu'r angen i gael atgyfeiriad trwy wasanaethau iechyd meddwl."

Ond maent yn galw am ddarpariaeth yr un peth i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Llais i'r meddyg teulu

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru: "Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn falch iawn o weld sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i wrando ac i fynd i'r afael ag anghenion gofal holistig y gymuned drawsryweddol.

"Rydym yn falch hefyd y bydd gan feddygon teulu sydd â diddordeb arbenigol yn y maes ran allweddol yn y gwasanaeth newydd, yn ogystal â phob meddyg teulu sy'n rhan o siwrnai'r claf."