Diffyg gofal plant yn y Cynulliad yn 'rhwystr' i rieni sengl
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni sengl yn cael eu hatal rhag sefyll mewn etholiadau yng Nghymru oherwydd diffyg gofal plant, meddai ymgyrchwyr.
Does gan y Cynulliad Cenedlaethol, wnaeth agor yn 2006, ddim meithrinfa a does yna ddim cyfleusterau gofal plant yn unrhyw un o'r 22 o gynghorau 'chwaith.
Yn ôl ymgyrchwyr cydraddoldeb, mae'r diffyg help yn ei gwneud hi'n "amhosib" i rieni sengl fod yn ymgeiswyr.
Dywedodd un AS Plaid Cymru bod angen mwy o ddarpariaeth er mwyn "agor y drysau'n lletach" a chael mwy o amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth.
Mae'r Cynulliad yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i greu "awyrgylch sydd yn gyfeillgar i rai gyda theuluoedd. "
'Stigma' hawlio costau
Mae ffigyrau gan Gingerbread, grŵp ymgyrchu cydraddoldeb, yn dangos bod tua 97,000 o rieni sengl yn byw yng Nghymru.
Y Cynulliad yw'r senedd-dy mwyaf newydd ym Mhrydain ond does dim meithrinfa yno.
Roedd llefydd wedi eu cadw mewn meithrinfa gerllaw ond daeth y trefniant i ben am nad oedd y feithrinfa yn cael ei defnyddio.
Mae cynghorwyr yn medru hawlio £403 y mis er mwyn helpu gyda chostau gofal plant ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod nifer ddim yn cymryd yr arian am fod yna "stigma" ynglŷn â hawlio rhai mathau o dreuliau.
Beth yw'r sefyllfa i wleidyddion gweddill Prydain?
Mae gan ASau fynediad i feithrinfa am ddim.
Yn Senedd Ewrop ym Mrwsel mae gofal ar y safle a meithrinfa yn ystod y dydd.
Mae meithrinfa am ddim yn senedd yr Alban ar gyfer plant ymwelwyr, tra bod hawl gan y gwleidyddion i'w defnyddio mewn sefyllfa o argyfwng am £4 yr awr.
Does gan senedd Gogledd Iwerddon ddim meithrinfa.
Yn ôl ymgyrchwyr, dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a chynnig meithrinfa yn y Cynulliad.
Roedd Sarah Rees, sydd yn fam i ddau o blant, yn ymgeisydd ar gyfer y Women's Equality Party yn etholiad y Cynulliad yn 2016.
Mae'n dweud mai gofal plant yw'r rhwystr mwyaf i rieni sydd eisiau camu i'r byd gwleidyddol.
Oni bai am gefnogaeth ei theulu a'r ffaith bod y blaid wedi cynnig talu am ei gofal plant fyddai hi ddim wedi gallu bod yn ymgeisydd, meddai.
"Os fyddwn i'n rhiant sengl fyddwn i ddim yn ymwneud gyda'r byd gwleidyddol. Os nad oes gyda chi deulu sydd yn byw gerllaw yna mae'ch plant gyda chi trwy'r amser," meddai.
"'Dwi wedi cael sgyrsiau ar Twitter gyda chynghorwyr gan ddweud, 'dyma pam nad yw menywod yn y byd gwleidyddol achos chi'n trydar am gyfarfod am 22:00, pwy sydd yn rhoi'r plant yn eu gwlâu?'
"Maen nhw wedi dweud pethau fel, 'dwi wedi mynd â fy mhlant gyda fi i gyfarfodydd.'
"Dwi eisiau ymwneud gyda gwleidyddiaeth ond dwi'n gwrthod llusgo fy mhlant i gyfarfodydd pan ddylen nhw fod yn eu gwlâu."
Dywedodd AS Arfon, Hywel Williams, bod gofal plant yn "ddrud ac yn anodd ei gael" ac nad ydy o'n aml yn ddigon hyblyg i bobl, fel ASau, sy'n gweithio mewn dau le.
"Mae angen i ystod llawer ehangach o bobl dod i mewn i wleidyddiaeth - cymerwch chi faint o ferched sydd yn Nhŷ'r Cyffredin, a faint o bobl o leiafrifoedd ethnig," meddai.
"Mae angen agor y drysau'n lletach, a dim ond un agwedd ohono fo ydy hwn."
Mae Amy Preece, pennaeth Gingerbread Cymru yn cytuno bod angen ei gwneud hi'n haws i ferched allu bod yn wleidyddion.
Dywedodd bod rhieni sengl yn aml yn cael trafferth dod o hyd i ofal plant sydd yn fforddiadwy ac yn hyblyg.
Ychwanegodd: "Fe fyddai felly yn llawer mwy o her i riant sengl ymwneud gyda gwleidyddiaeth i gymharu gyda chwpl.
"Byddai cyfleusterau gofal plant yn gwneud y Cynulliad yn llawer mwy hygyrch i holl ddinasyddion Cymru."
Ystyried effaith polisïau ar rieni
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad eu bod wedi "ymrwymo i greu awyrgylch sydd yn gyfeillgar i rai gyda theuluoedd" a'u bod wedi cynnig llefydd i 10 o blant mewn meithrinfa yn y Bae ond nad oedd ACau a staff wedi defnyddio'r cyfleuster.
"Mae TEULU, rhwydwaith y Cynulliad i rieni sydd yn gweithio a gofalwyr yn cynnig cefnogaeth ac yn helpu'r Cynulliad i ystyried effaith unrhyw bolisïau ar rieni sydd yn gweithio a gofalwyr," meddai'r llefarydd.