Amgueddfa'n chwilio am wirfoddolwyr yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa
Disgrifiad o’r llun,

Siop yr amgueddfa ar ei newydd wedd

Mae amgueddfa'n chwilio am wirfoddolwyr i gynnig cymorth yn dilyn ailddatblygiad sylweddol.

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth ar ei newydd wedd yn cynnwys canolfan groeso, siop a chaffi pan fydd yn ail-agor yn swyddogol ddechrau Medi.

Hen lofnod

Cafodd adeilad gwreiddiol y Coliseum, sef cartre'r amgueddfa, ei agor fel theatr adloniant yn 1905, a daeth yn sinema ar ddechrau'r 1930au hyd at 1977.

Bu'r Coliseum yn segur tan 1982 pan gafodd ei ailagor fel Amgueddfa Ceredigion.

Cafodd yr adeilad ei ailddatblygu o dan gynllun 'Dulliau Newydd' gyda chymorth £1.3 miliwn o Gronfa'r Loteri Treftadaeth.

Fel rhan o'r gwaith o adnewyddu'r adeilad, fe ddaeth adeiladwyr o hyd i lofnod o 1934 ar un o'r muriau.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr adeiladwyr o hyd i lofnod o 1934 yn yr adeilad wrth ei ail-ddatblygu

Wrth alw am wirfoddolwyr i gynnig cymorth, dywedodd Amanda Partridge, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yr amgueddfa: "Mae gwirfoddolwyr yn gallu bod yn fendithiol iawn i'r Amgueddfa a gwella'r gwasanaeth sydd ar gynnig yn ddirfawr.

"Rydym yn croesawu oedolion o bob oed a chefndir."

Llun ddoe a heddiw

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol: "Mae gwirfoddoli yn yr Amgueddfa yn gyfle gwych i unigolion ddysgu am, a dod yn rhan o'r hanes a gynhwysir o fewn y waliau tra'n croesawu'r cyhoedd trwy ein drysau.

"Ni allai fod yn amser gwell na hyn gan y byddant hefyd yn chwarae rhan fawr yn y bennod newydd hon o'r adeilad, a fydd yn sicr o fod yn brofiad ynddo'i hun."

Yn ystod y gwaith datblygu diweddar, fe ddaeth yr amgueddfa o hyd i lun o'r gweithwyr oedd yn gyfrifol am adeiladu adeilad gwreiddiol y Coliseum, ychydig cyn 1905.

Aeth yr adeiladwyr presennol o gwmni RPD ati i ail-greu'r darlun yma fel cofnod o'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd ar y safle.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Coliseum ei godi ym 1905, a bu'n theatr ac yn sinema cyn dod yn gartref i Amgueddfa Ceredigion. Dyma'r adeiladwyr gwreiddiol, ac un o fechgyn ifanc y dref.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladwyr RPD oedd yn gyfrifol am yr ail-ddatblygu yn ail-greu'r llun o'r adeiladwyr gwreiddiol