Garffild Lloyd Lewis: Cofio 20 mlynedd ers marwolaeth Diana
- Cyhoeddwyd

Cafodd Diana ei disgrifio gan y prif weinidog ar y pryd, Tony Blair, fel tywysoges y bobl
20 mlynedd ers marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, mae cyn-olygydd Newyddion Radio Cymru, Garffild Lloyd Lewis yn cofio un o wythnosau mwyaf heriol ei yrfa.
Bu farw Diana Frances Spencer yn dilyn damwain car ym Mharis yn ystod oriau man y bore ar 31 Awst, 1997.
Dywedodd Garffild Lloyd Lewis nad oes amheuaeth mai dyma un o straeon newyddiadurol mwyaf y ganrif.

Roedd 1997 ei hun yn flwyddyn arwyddocaol am bob math o resymau yn nhermau newyddiadurol.
Ym mis Mai - Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol am y tro cyntaf mewn 18 mlynedd, a Tony Blair - y cymeriad lliwgar a charismatig 'ma yn cyrraedd Downing Street. Hefyd y refferendwm ar ddatganoli pwerau i Gymru.
Stori arall yn fwy rhyngwladol oedd Hong Kong yn trosglwyddo sofraniaeth o Brydain i China, felly mi oedd hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol o brysur a dweud y lleia'.
Er fod pawb yn gwybod fod y BBC a darlledwyr eraill yn paratoi ar gyfer marwolaethau Brenhinol, doedd dim posib cynllunio ar gyfer be' ddigwyddodd i Diana y noson honno.

Roedd Garffild Lloyd Lewis yn olygydd yn adran Newyddion Radio Cymru pan dorrodd y newydd am farwolaeth Diana
Doedd 'na ddim ffonau symudol fel sydd ganddo ni heddiw, ond roedd ganddo ni gyd fel aelodau o'r tîm newyddion pagers ac fe fflachiodd y pager rywbryd yn ystod yr oriau man, gan ddweud rhywbeth fel: 'Damwain ym Mharis: Diana yn ddifrifol wael'.
Do'n i ddim yn meddwl gormod am y peth i ddechrau, ond o fewn ryw hanner awr fe ddaeth i'r amlwg fod y sefyllfa yn un difrifol iawn, felly dyma fynd yn syth i mewn i 'stafell newyddion Bangor.
Roedd angen i ni ymateb yn syth i'r newydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni a bwletinau arbennig yn ystod yr oriau man, roedd yn rhaid i ni alw ar bob adnodd oedd ar gael i ni, boed yn ein canolfannau ym Mangor, Caerdydd, Llundain, neu'n Ffrainc.
Wedyn dyma'r cwestiynau yn dechrau codi.
Pwy oedd y cyflwynwyr yn mynd i fod? Pwy oedd y gohebwyr oedd ar gael? Pwy oedd yn mynd i gyfrannu i'r rhaglenni?
'Y protocol drwy'r ffenast'
Wrth gwrs mae 'na brotocol 'efo newyddion a straeon o'r fath, ond mi aeth y protocol drwy'r ffenast yn ystod yr wythnos, wrth i ni orfod ymateb i'r stori fel oedd pethau'n datblygu.
Ar y dechrau, yr unig beth oedda' ni'n wybod oedd y bysa 'na angladd mawr ymhen 'chydig o ddyddiau, ac roedd popeth yn arwain i fyny at y digwyddiad hwnnw.
Felly roedd yn rhaid i ni fod yn ymateb a chynnal rhaglenni bob dydd a chynllunio ar gyfer y digwyddiad mawreddog hwnnw yr un pryd.

Diana oedd gwraig gyntaf y Tywysog Charles, ac yn fam i'r Tywysogion William a Harry, oedd yn 15 a 12 oed adeg ei marwolaeth
Roedd 'na nifer o straeon yn codi yn ystod yr wythnos, bob un yn creu bwrlwm ei hun, ac yn gwthio'r agenda ymlaen.
Nifer ohonynt yn cynnwys onglau Cymreig, fel y ffaith fod gwarchodwr Diana, a'r unig un i oroesi'r ddamwain, Trevor Rees-Jones, yn Gymro o Lanfyllin.
Gormod o sylw?
Roedd y ffordd ddaru'r Teulu Brenhinol ymateb i'r farwolaeth yn stori ynddi hun, a'u bod wedi aros allan o'r golwg yn Yr Alban tra bod y torfeydd yn ymgynnull ar y strydoedd yn Llundain.
Roedd 'na helynt hefyd yn codi fod baner Jac yr Undeb ddim yn chwifio ar hanner mast uwchlaw Palas Buckingham, roedd y straeon yma i gyd yn cyfleu bwrlwm ac emosiwn yr wythnos.
Erbyn y dydd Mercher mi oedd yn rhaid i mi gymryd cam yn ôl, a meddwl os oeddan ni'n rhoi gormod o sylw i'r stori, oherwydd yn ystod yr un cyfnod, fu farw'r Fam Theresa, ac ni chafodd ei marwolaeth hi gymaint o sylw â Diana.
Ond roedd modd cyfiawnhau'r sylw y cafodd stori Diana oherwydd ymateb emosiynol pobl ar draws y byd, a bod 'na sawl ongl i'r stori.

Roedd y Dywysoges yn teithio mewn car Mercedes ym Mharis pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad
Penllanw'r wythnos oedd angladd Diana, ac mi oedd 'na gynllunio manwl iawn wedi mynd mewn i'r diwrnod hwnnw.
Ond eto, mi oedd 'na lot fawr o ymateb i ddigwyddiadau ar y pryd, fel y Teulu Brenhinol yn ymddangos o flaen giatiau'r palas i weld yr arch yn mynd heibio - wel doedd neb yn disgwyl hynny.
Ac anerchiad brawd Diana yn y gwasanaeth, yr Iarll Spencer, er ei fod yn siarad yn Saesneg, mi benderfynais i adael iddo gael ei ddarlledu, gan fod yr hyn yr oedd yn ei ddweud mor syfrdanol, a'r Teulu Brenhinol yn eistedd yno yn gwrando arno yn bod mor feirniadol.
'Siapio'r Teulu Brenhinol'
A dweud y gwir roedd dwy stori yn cyd-redeg drwy'r wythnos, sef yr emosiwn o golli Diana, a'r teimladau cryfion am ymateb y Teulu Brenhinol, mi oedd 'na leisiau i'w clywed yn siarad yn erbyn y Teulu Brenhinol, ac mi oedd yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn faint o sylw yr oeddan ni'n ei roi i'r lleisiau rheini.
Heb os, mae beth ddigwyddodd yr wythnos yna wedi siapio'r hyn ydy'r Teulu Brenhinol heddiw, ac wedi siapio Prydain yn gyfansoddiadol, gan fod Diana yn eicon, yn bersona gwahanol i'r hyn oedd y Teulu Brenhinol wedi bod ar hyd y blynyddoedd.
Roedd 'na deimlad mawr yn y tîm ein bod eisiau cyflwyno'r cynnwys gorau i'n gwrandawyr, cynnwys oedd llawn cystal os nad gwell na'r hyn oedd gan yr ochr Saesneg i'w gynnig, a dwi'n teimlo'n hyderus ein bod wedi gallu gwneud hynny.

Marwolaeth y Dywysoges
Clip archif: Y Tywysog Charles a'r Dywysoges Diana yn ymweld â Chymru yn 1985
Roedd gan Diana bresenoldeb amlwg ar lwyfan y byd, ond daeth ei bywyd i ben yn sydyn yn 1997.
Roedd pedwar o bobl yn teithio yn y cerbyd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn nhwnnel y Pont de l'Alma ym Mharis.
Gyda'r Dywysoges roedd ei ffrind, Dodi Al Fayed, gyrrwr y cerbyd - Henri Paul - a'r swyddog oedd yn gyfrifol am eu hamddiffyn, Trevor Rees-Jones.
Bu farw Mr Fayed a Mr Paul yn y fan a'r lle, ac fe ddioddefodd Mr Rees-Jones anafiadau difrifol.
Ni ddaeth ymchwiliad y crwner i ben nes mis Ebrill 2008, gan ddod i'r casgliad fod Diana wedi ei lladd yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r ffotograffwyr oedd yn ei herlid.