10,000 yn arwyddo deiseb i gadw bad achub Ceinewydd

  • Cyhoeddwyd
Cwch achub

Mae 10,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb i wrthwynebu israddio bad achub yng Ngheredigion.

Bwriad yr RNLI yw darparu cwch llai ar gyfer yr ardal, am nad yw'r cwch pob tywydd presennol yng Ngheinewydd yn cael ei ddefnyddio'n ddigon aml.

Ond mae pobl leol yn poeni y bydd hyn yn golygu na fydd cwch pob tywydd ar gael ar hyd 70 milltir o arfordir Bae Ceredigion, rhwng Y Bermo ac Abergwaun.

Dywedodd cadeirydd yr ymgyrch, Richard Taylor, ei fod yn "benderfyniad gwael sy'n rhaid ei herio".

Yn ôl Huw Williams, cynghorydd tref yng Ngheinewydd sydd hefyd yn aelod o'r bad achub, byddai'r bwlch yn y gwasanaeth yn beryglus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Williams o'r farn y byddai cael gwared o'r cwch pob tywydd yn beryglus

Ychwanegodd fod y bad achub wedi ei alw i sefyllfaoedd droeon dros y 10 mlynedd diwethaf na fyddai'r cwch newydd yn gallu ymdopi â nhw.

"Byddai'n cymryd hyd at awr a hanner i'r cychod pob tywydd agosaf yn Y Bermo ac Abergwaun gyrraedd digwyddiad brys yn ardaloedd Ceinewydd ac Aberaeron", ychwanegodd.

Dywedodd yr RNLI y byddai'r badau achub newydd yn caniatáu i wirfoddolwyr "ymateb yn gynt a theithio ymhellach i gynorthwyo pobl sydd mewn trafferth yn y môr".

Bydd gorsafoedd Pwllheli a'r Bermo yn cael cychod pob tywydd Shannon, ar gost o £4.4m.