Tîm bobsled Jamaica yn ymateb i fflôt Carnifal Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae tîm bobsled Jamaica bellach wedi ymateb yn dilyn ffrae dros fflôt "hiliol" yng Ngharnifal Aberaeron dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Yn ystod yr ŵyl cafwyd fflôt yn seiliedig ar dîm bobsled Jamaica o'r ffilm Cool Runnings, gydag aelodau wedi paentio'u hwynebau'n ddu.
Ond cafwyd cwyn fod y digwyddiad yn "hollol annerbyniol" ac mae'r heddlu bellach yn ymchwilio i'r mater fel "trosedd casineb" bosib.
Nawr mae tîm bobsled Jamaica yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn gyfle i "addysgu" pobl.
'Dim malais'
Mewn datganiad ar-lein, dywedodd y tîm fod aelodau'r fflôt wedi cysylltu gyda nhw "i gynnig ymddiheuriad am ansensitifrwydd am baentio'u hwynebau'n ddu".
"Rydym yn hoffi cymryd y cyfleoedd hyn i addysgu, yn hytrach na lladd ar bobl. Dydyn ni ddim yn credu eu bod wedi golygu unrhyw falais," meddai'r datganiad.
"Rydym hefyd yn diolch iddynt am eu rhodd hael mewn cefnogaeth i'n tîm."
Roedd Cool Runnings yn ffilm o 1993 oedd yn seiliedig yn fras ar stori wir y tîm bobsled cyntaf o Jamaica i gystadlu mewn Gemau Olympaidd, a hynny yn 1988.
Mae trefnwyr y carnifal, gafodd ei gynnal ddydd Llun, wedi cael cais am sylw.