Ethol Byron Davies yn gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Byron Davies

Mae'r cyn-AS, Byron Davies, wedi cael ei ethol yn gadeirydd ar y Ceidwadwyr Cymreig.

Fe drechodd e AC presennol Preseli Penfro, Paul Davies, yn yr ornest i olynu Jonathan Evans.

Cipiodd Byron Davies sedd seneddol Gŵyr gan Lafur yn 2015, cyn ei cholli yn etholiad mis Mehefin.

Dywedodd ffynhonnell bod arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, yn "bositif" am weithio gyda'r cadeirydd newydd, sydd hefyd yn gyn-AC.

Ond mae'r ddau, dros y blynyddoedd, wedi anghytuno ar nifer o faterion, gan gynnwys penderfyniad yr arweinydd i ddiswyddo pedwar AC o'i fainc flaen yn 2014 a'i benderfyniad i groesawu Mark Reckless i garfan y blaid yn y Cynulliad o UKIP.

Cafodd Jamie Wallace a Tom James eu hethol yn ddirprwy gadeiryddion.