Davies: 'Angen adeiladu cysylltiadau o fewn y blaid'

  • Cyhoeddwyd
Byron Davies AC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Byron Davies bod angen i arweinydd y blaid Geidwadol ddod ag aelodau yn ôl

Mae hollt yn dechrau ymddangos ymysg Ceidwadwyr wrth i'r AC Byron Davies, wrthod mynd i gyfarfod un o bwyllgorau'r Cynulliad, os na fydd ei gyd-aelod, William Graham, yn colli ei swydd fel cadeirydd.

Mae Byron Davies yn protestio yn erbyn penodiad Mr Graham fel cadeirydd y pwyllgor Menter a Busnes wedi i Geidwadwr arall, Nick Ramsay AC, gael ei ddiswyddo.

Bydd sylwadau Byron Davies yn debyg o ail-ddechrau'r ddadl ymysg y blaid yn dilyn penderfyniad yr arweinydd, Andrew RT Davies, i ddiswyddo pedwar AC o'i fainc flaen yn gynharach eleni.

Yn barod mae Byron Davies wedi methu â mynychu wyth o sesiynau'r pwyllgor, ac mae ei brotest yn debyg o barhau.

'Hurt'

Dywedodd Byron Davies bod penderfyniad Andrew RT Davies i ddiswyddo pedwar o'i blaid mewn ffrae am ddatganoli treth incwm yn "hurt".

Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod angen i Andrew ddangos bod ffordd ymlaen drwy adeiladu cysylltiadau a dod â phobl yn ôl.

"Ar ddiwedd y dydd yr her yng Nghymru yw Llafur, nid materion mewnol.

"Mae hi i fyny iddo fo ddangos ei fod yn gallu adeiladu cysylltiadau a dod â phobl yn ôl.

"Mae problemau o fewn y grŵp. Nid yw am ddiflannu. Bydd ond yn gwaethygu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pedwar aelod o'r blaid eu diswyddo am fynd yn erbyn Andrew RT Davies mewn pleidlais am dreth incwm

Diswyddo

Cafodd arweinydd diwethaf y pwyllgor, Nick Ramsay, ei ddiswyddo gyda Antoinette Sandbach, Mohammad Ashgar a Janet Finch-Saunders am fynd yn erbyn Andrew RT Davies mewn pleidlais ynglŷn â datganoli treth incwm.

Roedd yr ASau yn cytuno a'r cynllun treth incwm oedd yn cael ei gynnig, sy'n cael ei gefnogi gan y Prif Weinidog David Cameron.

Mae'n golygu y byddai rhaid i unrhyw newid i dreth incwm gael ei wneud ar draws pob band gwahanol.

Mae Andrew RT Davies wedi bod yn feirniadol iawn o'r model.

Mae Byron Davies yn anhapus bod William Graham wedi cael swydd cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes pan nad oedd wedi bod yn aelod cyn hynny.

Ychwanegodd: "Gallwch chi ddim cosbi pobl am ddilyn lein y blaid. Gallwch chi jyst ddim gwneud hynny.

"Mae'n siom ei fod wedi dod a rhywun o'r tu allan."

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthod gwneud sylw.