Un wedi marw mewn damwain awyren ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae awyren wedi plymio i'r ddaear wrth geisio glanio ym Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod un person wedi marw yn y digwyddiad.
Cafodd yr heddlu eu galw am 18:29 ddydd Mercher wedi adroddiadau bod awyren fechan wedi taro'r llain lanio, ac ar dân.
Aeth y gwasanaethau brys i'r safle, ond roedd y peilot wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Prif Arolygydd Sharon McCairn: "Ry'n ni'n annog y cyhoedd i gadw'n glir o'r safle er mwyn i'r gwasanaethau brys fedru delio gyda'r digwyddiad."
Mae'r ffordd i'r maes awyr wedi'i chau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw mewn digwyddiad yn ardal Caernarfon.
Dywedodd un llygad-dyst wrth BBC Cymru fod awyren yn ceisio glanio yn y maes awyr, ac yn teithio'n "llawer rhy gyflym", ond does dim cadarnhad swyddogol o hynny.
Mae un llun gafodd ei dynnu yn yr ardal yn dangos mwg yn codi o'r safle.
Mae Maes Awyr Caernarfon yn gartref i Ambiwlans Awyr Cymru a hofrennydd Gwylwyr y Glannau, ac mae awyrennau hyfforddi hefyd yn gweithredu oddi yno.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr yn Sir Hampshire wedi cael eu hysbysu am y digwyddiad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.