'Angen mwy o'r esgobion i ddysgu Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi codi ynglŷn â'r diffyg siaradwyr Cymraeg ymysg uwch glerigwyr yr Eglwys yng Nghymru, yn dilyn etholiad yr Archesgob Cymru newydd.
Cafwyd cadarnhad ddydd Mercher mai John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar hyn o bryd, fydd yn olynu Dr Barry Morgan yn y swydd.
Ond mae'r ffaith nad yw pump o'r chwe esgob presennol yng Nghymru - gan gynnwys Mr Davies - yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn creu "her" i'r Eglwys yn ôl rhai.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud yn ddiweddar eu bod wedi "ymrwymo i hyrwyddo eglwys ddwyieithog".
'Sgil pwysig'
Yn ôl John Pockett, sydd yn Stiward yng Nghadeirlan Llandaf, dyma'r "tro cyntaf erioed ers sefydlu'r Eglwys yng Nghymru" i gyn lleied o'r esgobion fod yn medru'r Gymraeg.
"Mae angen gwneud yn siŵr, os nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, fod ganddyn nhw ymdeimlad, ymrwymiad i'r iaith Gymraeg, a dealltwriaeth fod ganddon ni yng Nghymru ddwy iaith, a bod e'n bwysig i'r eglwys fod yn eglwys ddwyieithog," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni osgoi'r sefyllfa y cawson ni yn Llandaf yn ddiweddar, ble nad oedd unrhyw emynau Cymraeg o gwbl yng ngwasanaeth gorseddu'r esgob newydd oherwydd doedd hi methu eu canu nhw."
Dywedodd Lyn Lewis Dafis, sydd yn offeiriad yng Ngheredigion, mai'r ateb oedd annog y rheiny oedd eisoes yn y swyddi i ddysgu Cymraeg, yn hytrach na dyrchafu siaradwyr rhugl ar draul ymgeiswyr eraill.
"Mae angen eu hannog nhw i'w weld fel sgil pwysig yn eu gweinidogaeth nhw, gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y Saesneg a'r Gymraeg," meddai.
"Gallwch edrych ar [Esgob Bangor] Andy John fel esiampl. Mae'n rhan o'u swydd er mwyn gallu bod yn fugail ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd yn eu gofal."
'Braidd yn hwyr'
Ychwanegodd Mr Dafis ei fod yn gobeithio y bydd yr Archesgob newydd yn "gwella ac ehangu ar ei wybodaeth o'r Gymraeg" yn ei swydd newydd.
"Mae e wedi bod yn esgob ar ardal Abertawe ac Aberhonddu lle mae llawer o gymunedau Cymraeg.
"Dwi'n falch bod e wedi ei ddewis a bod ganddo'r ddealltwriaeth honno, a bydd angen iddo ddyfnhau ac ehangu ar beth mae'n wybod yn barod er mwyn bod fwyaf effeithiol yn y swydd."
Ond yn ôl y Parchedig Ganon Enid Morgan, sydd bellach wedi ymddeol, mae "braidd yn hwyr yn y dydd" i ddisgwyl i Mr Davies ddysgu Cymraeg bellach, ag yntau "yn saff yn ei 60au".
"Bydden i'n gobeithio y bydde fe'n gwneud ymdrech nid cymaint i ddysgu'r iaith, ond i ddod i nabod y Gymry Gymraeg yn well na mae e," meddai.
'Ddim yn ddwyieithog'
Fis diwethaf fe wnaeth Mr Pockett ysgrifennu llythyr at yr Eglwys yn dweud fod "cwestiynau dwys" yn codi o'r diffyg Cymry Cymraeg ar fainc yr esgobion.
"Dyw'r gallu i siarad Cymraeg yn sicr ddim yn angenrheidiol ar gyfer gwasanaethu fel esgob yn sawl un o esgobaethau Cymru," meddai.
"Ond siawns fod gennym ni'r hawl i ddisgwyl fod gan y fainc yn ei chyfanrwydd fwy na mymryn o Gymraeg, ac i ddangos dealltwriaeth ac empathi go iawn tuag at yr hynaf o'n dwy iaith.
"Oni bai fod y sefyllfa hon yn newid yn sydyn, fydd yr Eglwys yng Nghymru ddim yn medru hawlio ei bod yn eglwys ddwyieithog mwyach. Byddai hynny'n tristáu llawer ohonom."
Mewn datganiad yn ymateb i lythyr Mr Pockett, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod "pob un [o'r esgobion] wedi ymrwymo i hyrwyddo eglwys ddwyieithog".
"Rydyn ni'n hyfforddi gweinidogion yng Nghymru er mwyn sicrhau fod ganddyn nhw ddealltwriaeth iawn o bwysigrwydd y diwylliant a'r iaith Gymraeg," meddai'r Eglwys.
"Rydyn ni hefyd yn eu hannog i ddysgu Cymraeg fel rhan o'u hyfforddiant. Rydyn ni'n ceisio ble mae'n bosib i osod offeiriaid sy'n siarad Cymraeg mewn ardaloedd ble mae Cymraeg yn iaith fwyafrifol.
"Ond weithiau mae'n anodd eu recriwtio, hyd yn oed yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith."
Ychwanegodd y datganiad: "Beth sy'n bwysig i ni yw bod pobl yn awyddus i ddysgu Cymraeg a'u bod yn cael yr anogaeth i wneud hynny, yn hytrach na chael eu barnu am eu diffyg gallu."