Tirlithriad: Dros 200 o bobl yn mynychu cyfarfod cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 200 o bobl ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ystalyfera nos Iau i drafod camau nesa'r Awdurdod Lleol ar ôl cyfres o dirlithriadau yn yr ardal.
Mae arolwg daearyddol manwl ar ran Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi dangos bod dros 50 o dai yn y pentre' mewn ardal sydd a "risg uchel" o dirlithriadau.
Mae arweinwyr y cyngor wedi dweud nad ydyn nhw yn "gallu gado" datrys y broblem sy'n achosi i'r tir lithro yn ardal Pant Teg am nad ydyn nhw yn berchen ar y tir.
Fis diwethaf bu'n rhaid symud pobl o 10 o dai ar Heol Cyfyng yn dilyn tirlithriad.
Bellach mae swyddogion yn rhybuddio bod y mynydd yn bygwth ardal ehangach, gan gynnwys rhagor o dai ar Heol Cyfyng, Heol yr Eglwys, a Graig y Merched.
Ond mae'r cyngor wedi dweud na fydd mwy o bobl yn cael eu symud allan o'u tai am y tro fodd bynnag. Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd o fygythiad gwirioneddol i fywydau.
Bydd yr adeiladau nawr yn cael eu hasesu'n unigol, ac mae'r cyngor wedi dweud y gallai'r risg gynyddu petai glaw trwm.
Fe bwysleisiodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, nad oes gan y cyngor "unrhyw agenda gudd," na "chymhellion ariannol" tu ôl i'r camau sy'n cael eu cymryd.
Yn ystod y cyfarfod cyhoeddus, fe fynegodd nifer o bobl eu rhwystredigaeth am yr hyn wnaethon nhw ddisgrifio fel diffyg gweithredu gan y cyngor.
Wrth ymateb i bryderon unigol, dywedodd arweinwyr y cyngor eu bod yn ymchwilio i faterion, a byddant yn parhau i wneud hynny.
Wrth annerch y cyfarfod, dywedodd un dyn lleol, Dewi Hopkins, ei fod yn credu bod yr hyn a fynegwyd gan arweinwyr y cyngor ar yr achlysur hwn yr un peth â'r hyn a fynegwyd mewn cyfarfodydd tebyg flynyddoedd yn ôl.
Ac fe dderbyniodd gymeradwyaeth gan y dorf am eu sylwadau.
'Dim ateb syml'
Fe ddywedodd y cyngor nad oedden nhw yn gallu gwneud sylwadau ynglŷn â chynghorau'r gorffennol, ond nad oes ateb syml i'r ffordd o reoli'r dŵr sy'n dod o'r mynydd.
Ychwanegodd y swyddogion, fod ymdrechion yn cael eu gwneud i reoli'r dŵr gyda strategaeth ddraenio ond fod llawer o'r problemau draenio ar dir preifat neu yn sgil hen weithfeydd mwyngloddio a chwareli nad yw'r cyngor yn gyfrifol amdanynt.
Dywedodd Dewi Hopkins sy'n byw ar Heol Cyfyng, bod pobl yn yr ardal yn parhau i aros am atebion.
"Rwy'n credu mae'r cyngor yn mynd i drial neud eu gorau ond dyw problemau y mynydd ddim yn mynd i fynd i ffwrdd.
"Mae pobl ofan. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw eu dyfodol nhw."