Dechrau ymchwiliad wedi tân mawr mewn ffatri yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr wedi mynd i'r afael â thân mawr mewn ffatri yn ardal y Waun yn Wrecsam.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw ychydig cyn 05:00 fore Gwener, a chafodd naw criw eu hanfon i safle ffatri Kronospan ar Heol Caergybi.
Fe gyhoeddodd y Gwasnaeth tân eu bod wedi diffodd y fflamau erbyn 12:00.
Mae'r safle yn eiddo i gwmni sy'n cynhyrchu paneli pren.
Nid oes unrhyw adroddiadau fod neb wedi eu hanafu.
Mae Kronospan wedi dweud bod y tân wedi digwydd yn un o'r sychwyr ac mae ymchwiliad nawr wedi dechrau er mwyn darganfod sut ddechreuodd y tân.