'Cynnydd' yn nifer y barnwyr sy'n siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Yr Arglwydd Ustus Thomas o GwmgieddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

2017 yw'r flwyddyn galetaf i'r Arglwydd Prif Ustus Thomas o Gwmgïedd ei gael yn y rôl ers iddo ddechrau pedair blynedd yn ôl, meddai.

Mae disgwyl cynnydd yn nifer yr achosion llys sy'n cael eu clywed yn yr iaith Gymraeg yn ystod 2016-17, yn ôl adroddiad gan Arglwydd Brif Ustus y farnwriaeth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd.

Fe gafodd 570 o achosion eu clywed yn Gymraeg yn ystod 2015-16 - gan gynnwys un adolygiad barnwrol - ond mae disgwyl i'r ffigwr fod hyd at 700 erbyn diwedd y flwyddyn bresennol.

Yn ei adroddiad diwethaf cyn iddo ymddeol ym mis Hydref, dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd hefyd bod "cynnydd wedi bod yn nifer y barnwyr sy'n siarad Cymraeg".

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod "disgwyl i'r iaith Gymraeg gael ei ddefnyddio mewn 600-700 o achosion erbyn diwedd y flwyddyn".

Hawliau

Ychwanegodd bod traean o farnwyr cylchdaith sy'n eistedd yn Llysoedd y Goron a Llysoedd Sifil, ac ychydig llai na hanner o farnwyr ardal yn y llysoedd ynadon yn medru cynnal achosion drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn.

Mae Deddf yr Iaith 1993 yn caniatáu i "barti, dyst neu berson arall" siarad Cymraeg mewn achos llys.

Roedd yr Arglwydd Thomas hefyd yn pwysleisio bydd rheolau sy'n rhoi'r hawl i berson "siarad Cymraeg" yn llys y teulu ac mewn achosion sifil yn cael eu hychwanegu at reolau'r llysoedd hynny eleni, ac mae'r argymhellion bellach yn cael eu trafod gan y pwyllgor rheolau.

Golygai hyn bydd y rheol iaith yn cael ei gydnabod ac yn gwbl eglur yn rheolau llys y teulu ac mewn achosion sifil.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees fod "pethau wedi gwella'n sobor" o ran defnydd y Gymraeg mewn llysoedd

Yn 2016 mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y Barnwr Eleri Rees, sy'n gofiadur Caerdydd fod "pethau wedi gwella yn sobor," a bod yr iaith Gymraeg "nawr yn cael ei thrin yn gyfartal â'r iaith Saesneg".

Dywed yr Arglwydd Thomas yn ei adroddiad hefyd bod "ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o effaith datganoli yng Nghymru".

Mae gan y Cynulliad rymoedd deddfu mewn 20 maes ac mae dros hanner cant o ddeddfau Cymreig mewn grym.

Ond mae "pryderon yn parhau ynglŷn â'r ffordd orau o weithredu a gorfodi'r ddeddfwriaeth sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad", meddai.

'Tasg anferthol'

Mae'r barnwr Niclas Parry hefyd yn gadeirydd ar y pwyllgor sydd yn gyfrifol am ffurfioli'r termau Cymraeg gaiff eu defnyddio mewn achosion llys.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf fod yr ystadegau diweddaraf yn "galonogol", a bod "ewyllys da" wedi bod ers troad y ganrif tuag at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

"Yr unig beth fydden i'n ei gwestiynu ydi'r ffigyrau, a ydyn nhw'n uwch ac a ddylen nhw fod yn uwch. Mae'r cyfan yn dibynnu beth ydi'ch diffiniad chi o achos Cymraeg," meddai.

"Yn fy marn i a nifer o bobl, achos Cymraeg ydi unrhyw achos lle mae unrhyw ddefnydd o'r Gymraeg yn cael ei wneud, hyd yn oed os oes 'di o'n ddim ond un tyst."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Niclas Parry yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn ogystal â bod yn farnwr

Mae'r ddarpariaeth Gymraeg yn y llysoedd bellach yn llawer mwy hwylus nag yr oedd yn y gorffennol, meddai, gydag unrhyw un yn cael yr hawl i ofyn am gyfrannu yn yr iaith o'u dewis nhw.

"'Dach chi'n cael bargyfreithwyr o Loegr yn dod ac yn dweud 'mae'r achos yma'n mynd i gymryd ddwywaith yr amser'. Dydi o ddim - mae'r gwasanaeth cyfieithu yn hynod slic, mae'r ddarpariaeth i gyd yno, mae'r gwelliannau yno, mae'r ewyllys da yno."

Serch hynny mae'n dweud fod gwaith ei bwyllgor presennol o safoni'r termau Cymraeg yn "anferthol os nad amhosib", a bod angen rhagor o adnoddau eto os am barhau i Gymreigio gwaith y llysoedd.

"Os na fydd 'na fuddsoddiad ariannol... dydi'r gwaith yma ddim mewn gwirionedd am wneud unrhyw beth ond crafu'r wyneb," meddai.

Cyfeiriad strategol

Yn sgil Mesur Cymru mae'r ddeddf wedi creu swydd newydd farnwriaethol sef Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Bydd y person yn cael ei benodi neu ei phenodi i'r swydd honno gan yr Arglwydd Brif Ustus ar ôl ymgynghori gyda Gweinidogion Cymru a'r Arglwydd Ganghellor.

Mae disgwyl i'r llywydd gael ei benodi erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd yn gyfrifol am "sefydlu a chyfleu'r cyfeiriad strategol barnwrol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru".

Bydd yr Arglwydd Thomas yn ymddeol ym mis Hydref wedi pedair blynedd yn y rôl a bydd yn cael ei olynu gan Sir Ian Burnett.