Buddsoddi £56m i ehangu darpariaeth band eang cyflym iawn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb AS, sy'n esbonio tarddiad y buddsoddiad o hyd at £56m

Bydd hyd at £56m ar gael i ehangu darpariaeth band eang cyflym iawn yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian yn helpu pobl mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell i gael gwasanaeth rhyngrwyd sydyn.

Dywedodd Guto Bebb AS o Swyddfa Cymru bod hwn yn "gam sylweddol ymlaen" i wneud rhwydwaith Cymru yn "addas i'r oes ddigidol."

"Darparu mynediad i fand eang dibynadwy a sydyn yw'r peth pwysicaf allan ni'i wneud i sicrhau bod ein cymunedau a'n busnesau gwledig yn gynaliadwy," meddai.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod y buddsoddiad newydd - ynghyd â rhaglenni blaenorol - yn golygu bydd 98% o'r DU yn medru cael band eang cyflym iawn o fewn y blynyddoedd nesaf.