Maer yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
Boswell

Mae Maer Penfro wedi ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.

Mae David Robert Boswell, 56, sydd hefyd yn gynghorydd, wedi ei gyhuddo o chwe achos o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o dreisio.

Clywodd y llys fod Mr Boswell yn bwriadu pledio'n ddieuog i'r troseddau honedig ddigwyddodd rhwng 1991 ac 1994, ac sydd yn ymwneud â dau berson oedd dan 14 oed ar y pryd.

Dywedodd ei gyfreithiwr y byddai'r cyhuddiadau yn erbyn ei gleient yn cael eu "hamddiffyn yn chwyrn".

Rhyddhau ar fechnïaeth

Wrth ymddangos yn y llys ddydd Mawrth, fe siaradodd Mr Boswell, sydd yn dod o Ddoc Penfro, i gadarnhau ei enw yn unig.

Cafodd fechnïaeth ddiamod a bydd yn ymddangos eto yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 13 Hydref.

Cafodd Mr Boswell ei ethol yn gynghorydd yn ward Penfro Llanfair Gogledd ym mis Mai, gyda mwyafrif o chwe phleidlais.

Mae wedi gwasanaethu gyda'r fyddin am 12 mlynedd ac yn gadlywydd gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Pan ddygwyd y cyhuddiadau yn ei erbyn, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod David Boswell wedi ei wahardd o'r blaid.