Penodi cyfarwyddwr newydd i Gastell Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Jac Owen DaviesFfynhonnell y llun, Castell Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Daw Jac Owen Davies o Gastellnewydd Emlyn yn wreiddiol.

Mae gan Gastell Aberteifi gyfarwyddwr newydd.

Hyd at yn ddiweddar roedd Jac Owen Davies yn rheolwr gyfarwyddwr ar Glwb Rugby Skolars yn Llundain a chyn hynny ef oedd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymry Llundain.

Mae ei swydd yng Nghastell Aberteifi yn cael ei ariannu gan grant Treftadaeth Wydn Cronfa Treftadaeth y Loteri, ac yn ôl y sefydliad ei brif orchwyl yw "diogelu dyfodol cynaladwyedd y castell".

Cyhoeddodd y castell hefyd eu bod nhw wedi derbyn 2,000 yn fwy o ymwelwyr dros chwe wythnos y gwyliau haf o'r gymharu a'r un adeg y llynedd, sef cyfanswm o dros 7,500.

Wrth gychwyn ar ei waith dywedodd Jac Owen Davies, "Rwyf wrth fy modd i ymuno â Chastell Aberteifi ar yr adeg gyffrous yma yn ei hanes... Edrychaf ymlaen at gynorthwyo mynd â'r castell i'r pegwn nesaf ac i sicrhau bod cymaint o bobl ag sy'n bosib yn elwa o'r safle hynod yma."