Mwy o reolwyr busnes i helpu â llwyth gwaith athrawon
- Cyhoeddwyd
Bydd rheolwyr busnes yn rhoi cymorth i staff mewn ysgolion cynradd yng Nghymru gyda'r bwriad o "leihau llwyth gwaith diangen".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y buddsoddiad o £1.28m yn cael ei ddefnyddio i dalu am y rheolwyr fel rhan o gynllun peilot dwy flynedd.
11 awdurdod lleol fydd ynghlwm â'r peilot, sy'n cynnwys Sir Fôn, Conwy, Sir Gâr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd, a bydd y cynghorau unigol yn rhoi'r un faint o arian a'r llywodraeth tuag at y cynllun.
Er yn croesawu'r buddsoddiad, mae rhai undebau'n dweud nad yw'r arian hanner digon.
Cyllid a gweinyddu
Y bwriad yw bod y rheolwyr yn ymwneud â materion fel cyllid a gweinyddu.
Bydd hyn, meddai'r llywodraeth, yn rhoi cyfle i athrawon a phenaethiaid ganolbwyntio ar ddysgu.
Mae rhai rheolwyr busnes yn bodoli'n barod mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac yn cael eu talu o gyllideb yr ysgolion.
Yn ogystal â'r rheolwyr busnes mae canllaw hefyd wedi ei gyhoeddi sy'n nodi beth yw'r disgwyliadau ar athrawon a'r ffordd y gallan nhw leihau eu llwyth gwaith.
Mae 40,000 o ganllawiau poced a 3,000 o bosteri yn cael eu dosbarthu, sy'n rhoi cyngor ar farcio ac asesu disgyblion, cynllunio gwersi a chasglu data.
Mae'r adnoddau wedi eu datblygu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Estyn, undebau athrawon a sefydliadau eraill.
Rhai o'r pwyntiau yn y canllaw i athrawon yw i beidio "casglu data nad yw'n berthnasol" nac i roi "gormod o adborth ysgrifenedig i ddisgyblion".
Mae'n ychwanegu na ddylid cynllunio "i fodloni sefydliadau allanol" a hefyd i "ystyried anghenion disgyblion" wrth gynllunio.
'Mwy o amser' yn dysgu
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams bod lleihau biwrocratiaeth yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r proffesiwn i helpu athrawon i fod cystal ag y gallan nhw fod, er lles y disgyblion," meddai.
"Dwi am i ni wneud y pethau sylfaenol yn iawn a chaniatáu i athrawon fwrw ymlaen â'r gwaith addysgu fel y gallwn ni barhau i godi safonau.
"Mae lleihau llwyth gwaith diangen a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn helpu disgyblion i ddysgu mor bwysig."
Ychwanegodd y byddan nhw yn "parhau i gymryd camau" i fynd i'r afael â llwyth gwaith staff mewn ysgolion.
Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn: "Mae baich gwaith athrawon yn fater y mae Estyn yn ei gymryd o ddifrif a'm gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn helpu i egluro disgwyliadau a helpu athrawon i hoelio'u hamser a'u hymdrechion ar yr hyn sydd bwysicaf - addysgu a dysgu."
Mae undebau athrawon wedi croesawu'r cyhoeddiad yn gyffredinol, er yn amheus o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda'r buddsoddiad.
Dywedodd Rex Phillis o undeb yr NASUWT: "Os ydych chi'n rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae gyda ni fwlch ariannu o £306m mewn cyllidebau ysgolion, pan ry ni'n cymharu'n hysgolion ni ag ysgolion Lloegr - mae hyn yn bitw."
Dywedodd Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC, bod llwyth gwaith yn "afresymol" ar hyn o bryd ac yn cael effaith ar iechyd rhai mewn ysgolion.
Mae'r undeb yn credu y gallai'r rheolwyr busnes gael effaith bositif ar benaethiaid o ran lleihau'r gwaith gweinyddol maen nhw yn gwneud.
'Mwy i'w wneud'
"Bydd angen monitro llwyddiant y cynlluniau peilot yn ofalus, gan obeithio y bydd modd ymestyn y cynllun gydag amser i gynnwys pob ysgol yng Nghymru, yn ysgolion cynradd ac uwchradd," meddai.
Ond ychwanegodd nad yw'r peilot a'r canllawiau ar ben eu hunain yn ddigon.
"Mae rhagor i'w wneud," meddai.
"Mae angen gorolwg o'r gofynion gweinyddol ar ysgolion, a sicrhau fod unrhyw ofyniad newydd yn wirioneddol angenrheidiol, ac, yn ddelfrydol, yn disodli gofynion blaenorol eraill, yn hytrach nag yn ychwanegu atynt.
Potensial
Ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd Owen Hathway o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, yr NEU (undebau'r NUT ac ATL gynt) fod potensial i'r cynllun lwyddo.
"Fi'n credu bod gallu i'r prosiect yma gael effaith. Bydd angen i ni weld sut mae hyn yn gweithio," meddai.
"Un o'r problemau... mae prifathrawon yn dweud wrthon ni - wrth eu bod nhw'n mynd i'r swydd - yw eu bod wedi dod i frig ysgolion achos eu bod nhw'n arbenigo o fewn y sector addysg ac o fewn dysgu, ond falle nad yw'r sgiliau ariannol, sgiliau busnes i redeg ysgol ddim gyda nhw yn y lle cyntaf, felly gobeithio bydd hyn yn un ffordd iddyn nhw allu dod i'r brig gyda'r sgiliau yna."
Er yn cydnabod nad yw £1.28m yn fuddsoddiad mawr, dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd yn arwain at ragor o gyllid yn y pendraw.
"Dwi'n credu bod angen i ni groesawu ble mae arian newydd yn dod i mewn i'r system, a dyna pam ry ni'n croesawu hyn, ond wrth gwrs, bydd angen gweld hefyd os yw e'n gweithio fel peilot, ac os ydy e, bydd Llywodraeth Cymru'n gorfod ystyried a yw hi'n werth buddsoddi mwy o arian yn y prosiect."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2017