Hen fragdy yn Llanelli ar restr 'mewn perygl'

  • Cyhoeddwyd
BragdyFfynhonnell y llun, Y Gymdeithas Fictoraidd

Mae hen fragdy yn Llanelli wedi ei ddisgrifio gan y Gymdeithas Fictoraidd fel un o'r adeiladau sydd fwyaf mewn peryg yn y DU.

Mae Bragdy Buckley, sy'n 165 oed, wedi ei enwi ar restr y gymdeithas o'r 10 adeilad sydd fwyaf mewn perygl.

Mae'r safle ar lannau Afon Lliedi wedi bod yn wag ers bron i 20 mlynedd ers i'r cwmni symud i Gaerdydd.

Cytunwyd yn 2014 y byddai'r safle'n cael ei droi'n fflatiau, ond dyw'r cynlluniau hynny ddim wedi dwyn ffrwyth hyd yn hyn.

Ffynhonnell y llun, Y Gymdeithas Fictoraidd
Disgrifiad o’r llun,

Bragdy Buckley oedd un o'r cyntaf yn y byd i roi cwrw mewn caniau

Dywedodd y Gymdeithas Fictoraidd bod yr adeilad rhestredig Gradd II mewn cyflwr gwael ar ôl "dau ddegawd o esgeulustod".

Fe wnaeth cwmni Brains brynu'r bragdy - un o'r cyntaf yn y byd i roi cwrw mewn caniau - yn 1998.