Cofio canlyniad Sir Gâr yn Refferendwm '97
- Cyhoeddwyd
Y gohebydd John Meredith sy'n hel atgofion am noson y refferendwm datganoli yn 1997 i Cymru Fyw yn y cyfrif olaf i gyhoeddi - Sir Gaerfyrddin.
18 Medi, 1997 - cyrraedd gwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin cyn troi am Ysgol Bro Myrddin erbyn 20:00. Yno roedd y tîm yn barod gan gynnwys Guto Orwig y dyn camera a'r diweddar, ysywaeth, Alun Sbardun Huws y cynhyrchydd.
Y dasg gynta' fyddai dod i adnabod y bobl o'r ddwy ochr i'r ddadl - yn arbennig y bobl hynny a fyddai yn cadw llygad barcud ar y pleidleisiau fyddai'n disgyn o'r blychau pleidleisio.
Yn y stiwdio yng Nghaerdydd roedd y diweddar annwyl Sian Pari Huws yn llywio rhaglen i Radio Cymru a Dewi Llwyd oedd yng ngofal y darllediad i S4C.
Dyma'r canlyniadau cyntaf yn dechrau cyrraedd, ond megis dechrau oedd y cyfrif yng Nghaerfyrddin.
Canlyniad siomedig, un ar ôl y llall, i'r Ymgyrch Ie yn cyrraedd. Ond gan mai canlyniadau'r Gororau oedd y rhain nid oedd hynny yn hollol annisgwyl.
Defnyddio'r maths!
Tua 01:00 roedd y pictiwr yn dechrau ymddangos i ni yng Nghaerfyrddin. Roedd gwylwyr y blychau yn nodi fod yna ddwy bleidlais IE am bob pleidlais NA.
Yna daeth y cyhoeddiad pa ganran o etholwyr y sir oedd wedi pleidleisio. Gyda'r ddau ffigwr hynny, a'm ychydig sgiliau mathemategol, roeddwn yn medru rhagweld y byddai mwyafrif IE Sir Gâr tua 20,000.
Roedd rhwydwaith Saesneg y BBC yn rhoi fwy o sylw i'r patrymau pleidleisio o fewn y sir. Cofier hefyd am drên bach yr Wyddfa Peter Snow.
Erbyn hyn roedd y darlun cenedlaethol yn mynd yn dduach bob eiliad i gefnogwyr yr ymgyrch IE.
I dorri stori hir yn fyr, ychydig cyn 03:00 y bore, cefais gadarnhad fod fy mathemateg am y mwyafrif o blaid datganoli yn Sir Gaerfyrddin yn gywir. Rhaid mai hwn oedd fy marc ucha' erioed yn y pwnc!
Yn gweithio i'r cyngor, ac yn rhan o'r broses gyfrif, oedd cyn gydweithiwr i mi yn y BBC sef y diweddar Hefin Edwards. Dyma Hefin yn rhoi gair bach yn fy nghlust ac yn awgrymu y byddwn yn hapus gyda'r canlyniad ym Mro Myrddin, gan ei fod o'r farn fy mod yn gefnogwr i ddatganoli.
18,000 o fwyafrif, dyfalais.
"Gwell na hynny," oedd ei ymateb.
"20,000?"
Mwy hapus na hynny hyd yn oed, dywedodd.
Toc ar ôl 03:00, dywedodd Sbardun fod S4C am gysylltu.
Erbyn hyn roedd cefnogwyr IE wedi anobeithio gan fod mantais y bleidlais NA dros 30,000 gyda dim ond dau ganlyniad i'w cyhoeddi.
Y foment fythgofiadwy
Dyma ddringo i'r platfform darlledu gan feddwl na fyddai pleidlais Caerfyrddin yn ddigon i newid y sefyllfa. Gôl gysur i'r ymgyrch IE ar ddiwedd gêm oedd wedi ei cholli.
Rhoi'r darn gwrando yn fy nghlust eiliad cyn i ganlyniad Gwynedd ddod trwyddo a chlywed bod y mwyafrif yno ychydig dros 15,000 i'r bleidlais IE.
Dyma ergyd o orfoledd yn fy nharo fel bwled o droed chwith Gareth Bale oherwydd roedd gen i wybodaeth hanesyddol i'w adrodd wedi'r cyfan. Trodd gôl gysur yn "winner".
Y broblem nawr oedd cyfleu'r cyffro heb ddatgelu'r canlyniad a thorri rheolau caeth y BBC.
'Ydwyf'
Mae'r cyfweliad gefais gyda Dewi Llwyd a Sian Pari Huws yn hanes erbyn hyn. Ond i mi fel gohebydd, roedd yn foment bythgofiadwy.
Dewi: "Ydych chi fwy na heb yn trio dweud wrthai mewn rhyw fath o god annelwig yn y pen yna, bod y mwyafrif yn debyg o fod yn fwy na hynny i'r IE yn Sir Gaerfyrddin?"
John: "Mewn ateb... ateb syml i hynna Dewi ydy 'Ydwyf'."
Wedi drama'r oriau mân cefais gais i holi Gwynfor Evans. Cyfweliad bythgofiadwy pan nododd ei falchder ei fod wedi clywed y canlyniad ar y cyfryngau Cymraeg o flaen y cyfryngau Saesneg.
Gyda llaw, roedd trên bach Peter Snow yn fyr o gyrraedd y copa i nodi fod Cymru wedi gwrthod datganoli unwaith eto!
Noson a bore bythgofiadwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2017