Y Gymraeg yn y gofod

  • Cyhoeddwyd
Y Ddaear yn y gofod

Mae 2017 yn nodi 40 mlynedd ers i'r Gymraeg gael ei lawnsio i'r gofod gyda 55 o ieithoedd eraill, dolen allanol i gynrychioli bywyd ar y ddaear.

Wrth ichi ddarllen hwn, mae'r iaith Gymraeg yn dal i deithio drwy'r gofod ar fwrdd y chwilwyr gofod Voyager 1 a 2 a gafodd eu lawnsio fis Awst a Medi 1977.

Mae'r ddau Voyager wedi teithio ymhellach nag unrhyw chwiliwr arall sydd wedi llwyddo i aros mewn cysylltiad gyda'r ddaear - maen nhw bellach wedi gadael cysawd yr haul ac yn teithio rhwng y sêr.

Mae'r Gymraeg ar y Cofnod Aur sydd ar ei bwrdd, sydd hefyd yn cynnwys lluniau a synau'r ddaear i egluro i unrhyw fodau eraill sydd allan yna pwy ydyn ni a lle ydyn ni.

Astroffisegydd o'r enw Carl Sagan aeth ati i ddewis yr eitemau ar gyfer y Cofnod Aur, ac mae'r hanes yn cael ei ddweud yn y llyfr Murmurs of the Earth.

"Dwi'n cofio darllen y llyfr, dwi ddim yn cofio ai o Lyfrgell Llangefni neu Lyfrgell y Brifysgol gefais i o," meddai Dr Geraint Jones sy'n Bennaeth Grŵp Gwyddorau'r Planedau yn Labordy Gofod Mullard, Coleg Prifysgol Llundain (UCL).

"Ar ddiwedd y llyfr mae 'na restr o bob un o'r cyfarchion, a'r Gymraeg yn eu plith.

"Dwi'n cofio nodi ar y pryd bod o'n swnio ychydig yn od - 'Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd'.

"Dwi'n meddwl bod y gair 'oes' ar goll.

"Yr Athro Frederick Ahl o Brifysgol Cornell recordiwyd yn dweud y geiriau Cymraeg, yn ogystal â'r negeseuon Lladin a Groeg. Dwi ddim yn gwybod ydy o wedi dysgu Cymraeg, ond mae ganddo fo acen eitha' da!"

Ffynhonnell y llun, NASA
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gyfarwyddiadau ar y Cofnod Aur yn dangos sut i'w chwarae

Ond oes 'na rywun arall allan yn y bydysawd mawr i weld y wybodaeth?

Oes, yn bendant, meddai Geraint Jones, sydd hefyd yn aelod o dîm y llongofod Cassini sydd wedi bod yn archwilio'r blaned Sadwrn.

Ond fe allai fod yn amser hir cyn inni wybod hynny'n iawn, heb sôn am ddarganfod a ydyn nhw wedi meistroli'r Gymraeg.

"Oes, yn bendant mae 'na fywyd yn y gofod," meddai Dr Jones.

"Dwi ddim yn gwybod pa mor bell i ffwrdd maen nhw ond dwi'n siŵr bod 'na yn rhywle.

"Ond mi gymerith hi tua 40,000 o flynyddoedd tan fydd Voyager 1 yn cyrraedd seren arall felly os fysa rhywbeth yn cael hyd inni wrth y seren honno, fysa hynny mewn 40,000 o flynyddoedd.

"Mae lot fawr yn medru digwydd yma ar y ddaear yn yr amser yna felly os fysan nhw'n dod i chwilio amdanon mi fysa' pethau wedi gallu newid yn ofnadwy yma!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Voyager 1 a 2 wedi gadael y "swigen anferth o gwmpas cysawd yr haul a'r planedau ac yn teithio yn y nwy tenau rhwng y sêr," meddai Dr Jones

Yn anffodus, mae'r siawns y bydd unrhyw beth yn y gofod yn darganfod y Cofnod Aur meddai Dr Jones.

"Mae'r siawns yn ofnadwy o isel mae gen i ofn!

"Mae fel rhoi neges mewn potel a'i daflu i'r môr ond bod y môr yma'n anferth ac ychydig iawn, iawn o ynysoedd ynddo fo!

"Os fydde fo'n mynd trwy'r atmosffer i lawr i wyneb ryw blaned fyse fo'n llosgi a go brin fyddai 'na fawr o obaith i rywbeth oroesi.

"Felly fydde rhaid i rywbeth gael gafael ar Voyager tra mae o dal allan yn y gofod.

"Ond mae'n neis iawn meddwl bod recordiad o rywun yn cyfarch rywun yn Gymraeg allan yna yn bell, bell, oddi wrth yr haul.

"Mae'n annhebyg iawn y bydd rhywbeth yn cael hyd iddo ond mae'n rhyw gofnod o fel oedd pethau yn y 1970au ac mae'n ddiddorol fel prosiect bod rhywun wedi meddwl beth oedd y pethau pwysicaf i'w rhoi ar y record yma i ddisgrifio pethau sylfaenol bywyd."

Mae Geraint Jones yn ein hatgoffa hefyd fod Radio Cymru wedi bod yn mynd allan i'r gofod hefyd gan fod signalau radio o dros y byd yn cael eu hanfon.

"Mae'r negeseuon yna wedi bod yn mynd allan ers degawdau erbyn hyn hefyd.

"Fydde signal Radio Cymru yn wan iawn ac wedi ei gymysgu efo rhai gorsafoedd eraill.

"Ond os fysa rhywun yn gwrando wrth y seren agosa', sydd bedair blwyddyn golau i ffwrdd, fe fyddai'n cymryd wyth mlynedd iddyn nhw bigo'r signal i fyny ac inni gael ateb.

"Yn ogystal â rhai astronôts sydd wedi siarad Cymraeg yn y gofod mae yna enwau llefydd Cymreig yn y gofod hefyd," ychwanega Dr Jones.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae NASA yn trydar yn Gymraeg am blaned Mawrth

"Mae crater o'r enw Pwyll ar un o leuadau y blaned Iau, yn ogystal ag enwau Cymraeg eraill fel Dyfed, Annwn a Pryderi, dolen allanol.

"Ar y blaned Mawrth, mae yna gwm o'r enw Mawrth Vallis. Mae'n debyg mai yno bydd man glanio rover Ewropeaidd yn 2021."

Ers 2015 mae'r NASA wedi gwneud y Gymraeg yn rhan o brosiect swyddogol i rannu lluniau trawiadol o'r blaned Mawrth.

Maen nhw'n trydar yn Gymraeg ar gyfrif Twitter y prosiect @HiRISEWelsh, dolen allanol.

Felly mae hanes y Gymraeg a'r gofod yn parhau ac efallai nad ydy'r disgrifiad ohoni fel Iaith y Nefoedd mor bell â hynny ohoni wedi'r cyfan.