Cynllun M4 yn gosod 'cynsail peryglus', medd comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw'r M4 ger Casnewydd "yn addas i'r defnydd a wneir ohoni"

Mae gweinidogion Cymru yn camddehongli eu deddfwriaeth eu hunain wrth gyflwyno achos ar gyfer traffordd newydd i'r de o Gasnewydd, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Sophie Howe eisoes wedi codi nifer o wrthwynebiadau i brosiect £1.1bn yr M4.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau gyflwyno adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn croesawu barn Ms Howe.

Yn ôl Ms Howe gallai gweinidogion fod yn gosod "cynsail peryglus" yn y modd y maent wedi dehongli Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae'r gyfraith yn gofyn i weinidogion ystyried effaith economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol unrhyw benderfyniad polisi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Howe yn dweud fod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn chwyldroadol

Mewn llythyr at dîm yr ymchwiliad cyhoeddus, ysgrifennodd Ms Howe: "Rwy'n llwyr ymwybodol o'r her sydd 'na i newid o ddull traddodiadol (lle cafwyd y syniad o gael rhan newydd i'r draffordd) i'r dull chwyldroadol sy'n ofynnol gan y ddeddf, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer yr her er mwyn sicrhau bod y buddion a geir yn y ddeddf yn cael eu gwireddu.

"Dyw pethau ddim fel y buon nhw. Fel y dywedais yn gynharach, rhaid i brosiect yr M4 beidio rhoi'r patrwm anghywir - fe allai hynny niweidio ysbryd y ddeddfwriaeth."

Ymateb y llywodraeth

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Mae sylwadau'r comisiynydd yn cael eu croesawu er mwyn sicrhau fod yr ymchwiliad cyhoeddus yn canfod a yw prosiect yr M4 yn gynaliadwy ac yn ateb y problemau hirdymor sy'n gysylltiedig â'r M4 o gwmpas Casnewydd.

"Bydd pob sylw yn cael ei ystyried cyn i'r penderfyniad terfynol ynglŷn â'r prosiect sylweddol hwn gael ei wneud y flwyddyn nesaf."