Awyrennau di-beilot wedi disgyn i'r môr yn gynharach eleni

  • Cyhoeddwyd
Awyren di-beilotFfynhonnell y llun, RAF

Mae wedi dod i'r amlwg fod dwy awyren ddi-beilot gwerth miliynau o bunnoedd wedi disgyn i'r môr yn gynharach eleni ar ôl codi o ganolfan awyr yng Ngheredigion.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod swyddogion wedi gorfod atal y fflyd gyfan rhag hedfan dros dro yn dilyn y digwyddiad, ond maent bellach wedi ailddechrau hedfan o'r maes awyr.

Fe ddiflannodd y dronau wrth hedfan dros Fôr Iwerddon ar ôl codi o Faes Awyr Gorllewin Cymru yn Aberporth.

Nid yw gweddillion y dronau wedi'u darganfod, ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Mae'r dronau ysbïol newydd yn rhan o gynllun cudd-wybodaeth y Fyddin, ac wedi profi'n hynod ddadleuol, wrth i nifer o brotestiadau gael eu cynnal ym Maes Awyr Aberpoth gan ymgyrchwyr heddwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Roedd yn rhaid i ni atal y Watchkeepers rhag hedfan am gyfnod byr wrth gynnal ymchwiliadau cychwynnol, ond fe ailddechreuodd y treialon hedfan yn gynnar ym mis Gorffennaf.

"Mae ymholiadau i'r digwyddiadau penodol yn parhau wrth i ni edrych i ddysgu popeth a allwn ohonynt."

Protestwyr

Roedd ymgyrchwyr yn protestio y tu allan i'r maes awyr fore Mercher.

Mae un protestiwr, Harry Rogers, sy'n rhedeg Drones Campaign Network Cymru, yn poeni am ddiogelwch ar ôl damwain arall.

"Mae dau ddigwyddiad blaenorol wedi bod - mae un wedi cwympo i'r rhedfa rhyw dair blynedd yn ôl, a daeth un arall i lawr ar y ffordd tu allan i'r ganolfan a tharo car oedd wedi parcio," meddai.

"Doedd neb yn y car, ond gallai rhywun fod wedi bod.

"Y prif reswm sy'n poeni pobl am y dronau yn yr ardal hon yw'r sŵn a'r mater o wyliadwriaeth, ac mae pobl yn poeni am eu preifatrwydd."