Merched Kazakhstan 0-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, @FAW_Womens
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yn dathlu sgorio unig gôl y gêm

Fe wnaeth Cymru ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 gyda buddugoliaeth yn Kazakhstan.

Aeth Cymru ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda Jess Fishlock yn sgorio ei 30ain gôl ryngwladol gydag ergyd wych o ymyl y cwrt cosbi.

Bu'n rhaid i Gymru wneud y daith heb yr ymosodwr Helen Ward wedi iddi roi genedigaeth i'w mab yn gynharach yn y mis.

Bydd Cymru'n teithio i Rwsia yn eu gêm nesaf ddiwedd mis Hydref, mewn grŵp sydd hefyd yn cynnwys Lloegr a Bosnia-Herzegovina.