Dŵr Cymru i dorri 500 o swyddi - 12% o weithlu'r cwmni

dwr cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at 500 o swyddi yn cael eu colli dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn ceisio gwneud arbedion.

Mae'r ffigwr yn 12% o'u gweithlu o 4000 o bobl.

Eu bwriad yw ailstrwythuro'r busnes ac adolygu eu holl gostau sylfaenol, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a chynnig gwell gwerth am arian i gwsmeriaid, yn ôl y cwmni.

Bydd y cynllun wedi'i ddylunio i warchod gwasanaethau hanfodol, lleihau costau swyddfa a chynyddu effeithlonrwydd.

Mae nhw'n dweud eu bod am ddarparu gwell gwerth am arian drwy sicrhau bod cymaint â phosibl o arian cwsmeriaid yn cael ei gyfeirio at wella gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.

Bydd yr ailstrwythuro yn ailsiapio'r cwmni, gan alluogi gwell defnydd o dechnoleg a data ac ailgynllunio prosesau a ffyrdd o weithio, er mwyn bod yn fwy effeithiol.

Dwr yn dod o bibenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod am fuddsoddi £4bn dros y pum mlynedd nesaf i wella'r amgylchedd

Yn ôl Dŵr Cymru, mae'n gynllun i sicrhau bod sefyllfa ariannol y cwmni yn sefydlog a chynaliadwy yn y tymor hir.

Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o'r colledion swyddi yn dilyn proses o ddiswyddiadau gwirfoddol.

Yn ôl y Prif Weithredwr, Peter Perry, mae hwn yn "amser anodd" i'r gweithwyr ond y byddan nhw'n delio gyda'r broses gyda "gofal, cydymdeimlad a thegwch".

Ychwanegodd: "Mae gan gwsmeriaid hawl i ddisgwyl ein bod ni'n buddsoddi mewn gwella ein gwasanaethau a chadw ein costau ein hunain i'r lleiafswm – a dyna'n union beth fydd y rhaglen hon yn ei gyflawni."

Mae'r cwmni hefyd yn cynllunio gwario £4bn ar eu gwasanaethau rheng flaen yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda mwy na hanner yr arian hwnnw'n mynd ar eu perfformiad amgylcheddol.

'Diffyg arweinyddiaeth'

Mewn ymateb i'r newyddion beirniadodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, y cwmni, gan ddweud bod y "gweithwyr yn talu'r pris am fethiant systematig yr arweinyddiaeth dros flynyddoedd lawer".

Ychwanegodd ei bod yn bryderus beth fydd effaith y colli swyddi ar y sefyllfa a bod angen "cyflwyno rheoleiddio gyda dannedd go iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn".

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ei bod yn "siŵr bod hwn yn sioc fawr i'r cannoedd o bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio".

"Bydd hwn yn ergyd fawr iddyn nhw a'u teuluoedd," meddai.

"Dwi'n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn gallu bod yna i roi help llaw iddyn nhw ffeindio swyddi newydd, ond mae'n bwysig bod Dŵr Cymru yn gwneud y penderfyniadau, nid Llywodraeth Cymru."

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS ar ran y Ceidwadwyr: "Y llynedd yn unig, cafodd carthion eu rhyddhau i'n hafonydd, llynnoedd a moroedd am 968,000 awr, tra bod cwsmeriaid Dŵr Cymru yn wynebu un o'r biliau dŵr uchaf yng Nghymru a Lloegr."

Ychwanegodd Ms Finch-Saunders fod "angen ateb cwestiynau ynghylch sut y bydd colli cymaint o weithwyr yn helpu i ddarparu gwasanaeth gwell".

Beirniadu'r penderfyniad wnaeth dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru hefyd, gan ddweud mai prif weithredwr Dŵr Cymru sydd "â'r cyflog uchaf yng Nghymru, ac eto maen nhw'n diswyddo cannoedd o weithwyr".

"Mae hwn yn benderfyniad gwarthus," meddai Philip Davies.

Pynciau cysylltiedig