'Ystyried her gyfreithiol' dros ddatblygiad solar ym Môn

Roedd ychydig gannoedd wedi mynychu'r cyfarfod yn Amlwch nos Iau
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Amlwch nos Iau i drafod pryderon am gynlluniau i godi ffermydd solar newydd ar Ynys Môn.
Yn ddiweddar fe gafodd cais i godi paneli ar dros 660 acer o dir ger Llyn Alaw ei gymeradwyo.
Byddai'n cynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o gartrefi - sef pob cartref ar yr ynys.
Wrth ganiatáu cais Alaw Môn dywedodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, bod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol" - wrth gyfeirio at dargedau'r llywodraeth i gynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030.
Ond, gyda chynlluniau i godi datblygiad solar llawer mwy hefyd ar y gweill, pryderu oedd llawer yn y cyfarfod yn Amlwch bod tir amaethyddol da yn cael ei golli, a bod gormod o ddatblygiadau o'r fath yn cael eu codi ar yr ynys.

Mae fferm solar 49.9MW, dros 190 acer, ger Rhosgoch yng ngogledd yr ynys yn barod, ond mae sawl datblygiad ar y gweill yn yr un ardal
Mae Ynys Môn, sy'n adnabyddus am safon y tir amaethyddol ers canrifoedd, hefyd yn ddeniadol i ddatblygwyr oherwydd ei thirwedd cymharol wastad a'r oriau o oleuni mae'r ynys yn ei chael.
Nid yw Enso Energy, datblygwyr Alaw Môn, wedi ymateb i gais gan y BBC am sylw.
Deallir bod y cwmni am gynnig cronfa gymunedol etifeddol - mae disgwyl y byddai'n cyfrannu tua £32,000 y flwyddyn (neu tua £1.28m ar hyd oes y prosiect) at fuddion y gymuned leol.

Dywedodd Gareth Winston Roberts bod yna ymdeimlad fod pobl am gydweithio ar y mater
Ond dywedodd cadeirydd y cyfarfod cyhoeddus, y Cynghorydd Gareth Winston Roberts, bod ymgyrchwyr bellach yn ystyried y camau nesaf, gan gynnwys adolygiad barnwrol o bosib.
"Mi oedd 'na deimlad cryf o bobl eisiau gweithio hefo'n gilydd, ac mae hynny'n bwysig i Ynys Môn," meddai, gan ychwanegu bod tua 250 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod.
"Heno mae pobl wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau a chael atebion....mae'r cyngor sir a ninnau rŵan am chwilio am farn [cyfreithiol].
"Mae'n bwysig iawn i bobl Môn."
Cadarnhaodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard, bod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol gan fargyfreithwyr ac yn ystyried a fyddai unrhyw her gyfreithiol yn debygol o lwyddo.
Ond er bod arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Aled Morris Jones hefyd wedi cynnig cefnogaeth drawsbleidiol i unrhyw her o'r fath, deallir bod yr amser sydd ar gael i lansio unrhyw her o'r fath yn gyfyngedig.
Yr effaith ar ddŵr yfed
Wrth gymeradwyo cynllun Enso Energy, dywedodd y gweinidog Rebecca Evans "nad oedd wedi'i darbwyllo y bydd modd gwrthdroi'r effeithiau ar y tir yn llwyr ar ddiwedd y cyfnod gweithredol".
Ond, roedd hi'n "cytuno gyda barn yr arolygwyr y dylid rhoi cryn bwys ar gyfraniad sylweddol y cynllun at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y cydbwysedd cynllunio".
Felly, mae'n ystyried bod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol".
Ond, barn rhai trigolion lleol yw nad oedd rhai ffactorau wedi cael digon o sylw - gan gynnwys unrhyw effaith ar ddŵr yfed lleol.
Mae ardal y cais ond ryw 400 metr i ffwrdd o Lyn Alaw, sef ffynhonnell dŵr yfed hanner gogleddol yr ynys.

Mae Wil Hughes (chwith) a John Littlewood yn poeni am "golli tir amaeth da"
Dywedodd Wil Hughes, sy'n byw yn ardal Amlwch, fod nifer a maint y datblygiadau yn poeni pobl yr ardal.
"Dwi'n bryderus iawn am golli tir... mae'n rhaid i ni gael gwaith yma ond dydy rhain ddim am greu llawer iawn o waith," meddai.
"Cadw pobl ifanc ym Môn sydd am helpu hefo'r iaith ac ysgolion a bob dim.
"Mae'n mynd i effeithio, dwi'n meddwl, ar lot o betha'."
Ychwanegodd John Littlewood, sy'n byw yn Rhosgoch: "Be' sy'n fy mhoeni i ydi os fasa'r paneli'n torri, a ni mor agos at Lyn Alaw.
"Mae 'na filoedd yn dibynnu ar Lyn Alaw am eu dŵr, a faint o jobs sydd am gael eu colli fel y gweithwyr ffermydd?
"Dwi'm yn erbyn solar, mae gen i solar ar dŷ fy hun, be dwi'n erbyn ydy colli tir amaeth da."
'Neb i'w weld yn gwrando'
Ond, mae datblygiad mwy fyth hefyd ar y gorwel, a hynny dafliad carreg i ffwrdd o'r ardal dan sylw.
Byddai cynllun 350MW Maen Hir - bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU - yr un maint â thua 1,700 o gaeau pêl-droed.
Byddai'r paneli'n cael eu codi ar draws tri safle hefyd ger Llyn Alaw ac yng ngogledd yr ynys.
Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu ar y cynllun hwnnw.

Mae Lightsource bp yn gobeithio codi'r paneli solar ar draws tri safle (gwyrdd tywyll), fyddai'n gorchuddio ardal o dros 3,000 acer
Yn ôl un o'r cynghorwyr sir dros ward Talybolion, Jackie Lewis, mae'n bryder bod penderfyniadau dros ddatblygiadau o'r fath yn cael eu gwneud ymhell o'r ynys.
"Dim ots be' 'da ni wedi'i ddweud ac ymgyrchu, does neb i'w weld wedi gwrando," meddai.
"Mae hyn yn diwydiannu cefn gwlad Ynys Môn a dyn a ŵyr pa ddifrod fydd 'na i'r tir ond hefyd ein lonydd ni - tydi'n lonydd ni heb eu hadeiladu i gymryd y tractors a'r loris mawr 'ma.
"Does 'na fawr o neb isio gweld y fath raddfa o ffermydd solar, mae maint y peth yn ddigalon i fod yn onest.
"'Da ni isio solar, ond yn cael ei wneud yn y ffordd iawn."

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod pobl "yn flin", tra bo'r Cynghorydd Jackie Lewis eisiau gweld solar "yn cael ei wneud yn y ffordd iawn"
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd, bod pobl yn "flin".
"Yr unig ffordd i apelio ydy adolygiad barnwrol, a dwi'n eiddgar iawn i wneud popeth i weld os ydy hynny'n bosib.
"Mae her gyfreithiol yn anodd, ond mae'n rhaid dangos ein bod ni o ddifrif yma ar Ynys Môn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024