Ailagor ffatri Bedwas i greu darnau tacsis newydd Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni alwminiwm yn ailagor eu ffatri ger Caerffili er mwyn cynhyrchu rhannau ar gyfer tacsis du newydd Llundain.
Bydd dros 130 o swyddi yn cael eu creu dros y bum mlynedd nesaf yn ffatri Sapa Components UK ym Medwas, meddai'r cwmni.
Fe wnaeth y cwmni o Norwy roi'r gorau i ddefnyddio'r safle yn 2014.
Bydd y cwmni nawr yn ailagor y safle er mwyn cynhyrchu rhannau alwminiwm ar gyfer y TX-5, sef y tacsi Llundain newydd sy'n disodli'r cab du disel.
Bydd y model diweddaraf yn creu pŵer trwy ategyn hybrid.
Yn ôl Sapa mae'r datblygiad yn fuddsoddiad sydd werth £9.6m, gan gynnwys £550,000 gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: "Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi buddsoddiad sylweddol Sapa wrth ailwampio ei safle ym Medwas.
"Mae gan Gymru enw da sy'n datblygu o gefnogi technolegau a chyfleoedd newydd arloesol, ac mae'r sector Cerbydau Carbon Isel yn faes arbennig sy'n datblygu ac yn is-sector allweddol yn ein diwydiant Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch."
Bydd Mr Skates yn bresennol wrth ailagor y safle ym Medwas brynhawn Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013