Marwolaeth 'cerddor talentog' yn ddamwain

  • Cyhoeddwyd
A496Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo

Mae cwest wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar ddyn 21 oed wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdeon ger y Bermo yng Ngwynedd.

Cofnododd y Crwner, Dewi Pritchard Jones yng Nghaernarfon fod Guto Pugh o Bantperthog ger Machynlleth wedi marw ar ôl i'w gar groesi'r ffordd i lwybr car arall.

Roedd yn teithio ar ffordd yr A496 rhwng Y Bermo a'r Bontddu ym Meirionnydd ym mis Awst y llynedd.

Roedd Mr Pugh yn arweinydd ar Fand Pres Prifysgol Bangor a chafodd ei ddisgrifio fel cerddor talentog.

'Colli rheolaeth'

Dywedodd y crwner fod Mr Pugh yn gyrru'n rhy gyflym wrth gyrraedd cornel a'i fod wedi colli rheolaeth o'i gar Citroen C2.

Roedd Jarryd Kai Whitehouse yn teithio o'r cyfeiriad arall tuag at Dolgellau mewn car Ford Fiesta. Dywedodd wrth y cwest ei fod ar fin cyrraedd cornel pan ddaeth car Mr Pugh "wisg ei ochor ar draws y ffordd gan daro ei gar.

"Roedd y tywydd yn arw iawn ar y pryd efo gwynt a glaw a'r ffordd yn wlyb" meddai.

Dywedodd tyst arall, Adrianna Fenner, wrth y cwest ei bod o'r farn fod Guto Pugh yn "mynd yn rhy gyflym".

Fe gafodd Mr Pugh anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad a bu farw yn y fan a'r lle.

Wrth gofnodi fod Mr Pugh wedi marw trwy ddamwain, dywedodd y crwner mai'r unig farn y gellid ei ffurfio oedd bod Mr Pugh wedi cyrraedd y gornel ar gyflymdra nad oedd yn ddiogel ar gyfer y tro.