Terfysg Llundain: Arestio dau ddyn arall yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn arall wedi eu harestio yng Nghasnewydd mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol yn Llundain yr wythnos diwethaf.
Cafodd y dynion, sydd yn 48 a 30 oed, eu harestio yng Nghasnewydd am tua 05:10 fore Mercher.
Daw hynny ar ôl i ddyn 25 oed gael ei arestio yn y ddinas ddydd Mawrth.
Mae'n golygu bod cyfanswm o bump o bobl wedi eu harestio gan yr heddlu sy'n ymchwilio i'r ffrwydrad yng ngorsaf Parsons Green.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cadarnhau adroddiadau gan bobl yn yr ardal bod y tŷ yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches.
Fe ffrwydrodd y bom cartref yn rhannol ar drên tanddaearol yn yr orsaf ddydd Gwener, gan achosi mân anafiadau i 30 o bobl.
Ddydd Sadwrn, cafodd dyn 18 oed ei ddal ym mhorthladd Dover, ac fe gafodd dyn 21 oed ei arestio yn Hounslow, Llundain.
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion o Heddlu'r Met, Heddlu Gwent ac uned gwrthderfysgaeth Cymru wedi bod yn rhan o'r cyrch fore Mercher.
Mae swyddogion yn dal i chwilio mewn dau leoliad yng Nghasnewydd fel rhan o'r ymchwiliad.
Dywedodd Swyddog gyda Heddlu'r Met, Dean Haydon: "Mae hyn yn parhau i fod yn ymchwiliad sy'n symud yn gyflym.
"Mae llawer o weithgarwch wedi bod ers yr ymosodiad ddydd Gwener.
"Erbyn hyn mae gennym bump o ddynion yn y ddalfa ac mae archwiliadau'n parhau mewn pedwar cyfeiriad."
Profiad llygad dyst
Dywedodd llygad dyst oedd ddim eisiau cael ei henwi iddi weld gweithgarwch ar y stryd yn ystod oriau man y bore.
"Tua 05:30 bore ma nes i weld ceir heddlu gyntaf ac wedyn ceir ditectif, tua saith car ditectif a tua thri char heddlu a fan terfysg yn dod fyny'r stryd ac yn parcio yn hamddenol. Fe aethon nhw mewn i'r tŷ tua 06:00."
"I ddechre o'n i'n meddwl bod rhywun wedi cael ei llofruddio neu rywbeth. Mi odd e jest yn normal iawn. Doedd yna ddim brys, dim byd. Mi odd e fel eu bod nhw wedi cael eu galw i'r tŷ. Mi odd fforensig yna ar yr un pryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017