Ymosodiad Parsons Green: Arestio dyn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio yng Nghymru mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol ar drên yn Llundain ddydd Gwener.
Mae Scotland Yard wedi cadarnhau fod y dyn 25 oed wedi ei arestio yng Nghasnewydd ddydd Mawrth dan y Ddeddf Derfysgaeth.
Ef yw'r trydydd dyn i gael ei arestio ers y digwyddiad.
Ddydd Sadwrn, cafodd dyn 18 oed ei ddal ym mhorthladd Dover, ac fe gafodd dyn 21 oed ei arestio yn Hounslow, Llundain.
Fe ffrwydrodd y bom cartref yn rhannol ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green, gan achosi man anafiadau i 30 o bobl.
Archwilio cyfeiriad yng Nghymru
Mae'r heddlu bellach yn archwilio cyfeiriad yng Nghasnewydd.
Dywedodd Swyddog gyda Heddlu'r Met, Dean Haydon: "Mae hyn yn parhau i fod yn ymchwiliad sy'n symud yn gyflym.
"Mae llawer o weithgarwch wedi bod ers yr ymosodiad ddydd Gwener.
"Erbyn hyn mae gennym dri dyn yn y ddalfa ac mae chwiliadau'n parhau mewn pedwar cyfeiriad."
Fe gadarnhaodd hefyd fod Uned Gwrthderfysgaeth y Met wedi bod yn cyd-weithio gydag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2017