Arwyddion da y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae tynnu sylw at gyfieithu gwael a Chymraeg ciami ar arwyddion ac mewn llefydd cyhoeddus yn weithgaredd poblogaidd ymysg rhai Cymry Cymraeg.

Wedi'r cyfan, mae 'na ddigonedd o enghreifftiau sydd wedi codi gwên.

Ond ai dyma'r dacteg orau bob tro i annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus?

Beth am ganmol rhai da hefyd?

Yn ddiweddar fe benderfynodd Dic Ben, sy'n byw ym Methesda, rannu enghraifft o arwyddion Cymraeg da a welodd mewn siop ym Merthyr Tydfil ar Facebook.

Ffynhonnell y llun, Dic Ben/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddion Cymraeg siop Wilko, Merthyr Tydfil

"Dwi ddim 'di gweld rhai fel 'na o'r blaen efo'r Gymraeg yn cael mwy o statws na'r Saesneg," meddai.

"Mae 'na gymaint o bethau negatif yn cael eu rhoi ar y we. Erbyn rŵan, hyd yn oed os 'di rhywun yn camdreiglo maen nhw'n cael eu rhoi i fyny, ond o leia' maen nhw'n trio.

"Mae 'na le i wella weithiau, ac mae 'na wahaniaeth rhwng Google translate a phobl sy'n trio eu gorau.

"Pan mae rhywun yn gwneud ymdrech ar yr ochr orau mae eisiau eu canmol nhw."

Ffynhonnell y llun, Dic Ben/Facebook

Fe rannodd Ceri Llwyd luniau o'i siop leol yn Llanrwst yn ddiweddar yn y grŵp Arwyddion Cymraeg Gwael, dolen allanol ar Facebook, sydd fel arfer yn tynnu sylw at 'wallau' iaith, er mwyn dangos enghreifftiau positif.

"Dwi'n mynd i'r siop yn rheolaidd a nes i ddigwydd godi 'mhen a sylweddoli nad oes 'na ddim arwyddion Saesneg yn y siop o gwbl," esboniodd wrth Cymru Fyw.

"Ac maen nhw'n amlwg wedi gofyn i rywun am ddywediadau fel 'Pob math o fara beunyddiol' - grêt de.

"Dwi ddim yn un sy'n rhoi lot o bethau fel hyn i fyny - dwi'n meddwl mai dyma'r tro cyntaf i fi roi llun - ond ro'n i wedi dotio at sut roedden nhw wedi mynd ati i'w wneud o, roedden nhw'n amlwg wedi meddwl o drwadd.

"Yn yr oes yma lle mae 'na gymaint yn dysgu Cymraeg a chymaint o annog i bobl ddefnyddio be' bynnag sydd gynnyn nhw, 'sgynnon ni ddim lle i fynd i gwyno yn flin am Gymraeg gwael.

Ffynhonnell y llun, Ceri Llwyd/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

'Pob math o fara beunyddiol' yn siop Spar Llanrwst

"Mae 'na rai digri iawn a rheiny sydd eisiau eu dangos, dim jyst cwyno.

"Bod â thafod yn ein boch, chwerthin am ben y pethau digri sydd eisiau dwi'n meddwl ac annog pobl i ddefnyddio'r iaith, dyna sut gwneith hi wella gan bobl."

Wedi i ffrind sydd wedi dysgu'r iaith ofyn i Ceri ymuno gyda grŵp i ddysgwyr ar y we er mwyn helpu i gywiro neu gynnig y gair Cymraeg cywir mae Ceri wedi ei hysbrydoli gan frwdfrydedd y rhai sy'n dysgu.

"Mae'r rhai sydd ar y wefan yn anhygoel ac yn ysbrydoli rhywun," meddai.

"Os ydy rhywun yn comentio gormod am y camgymeriadau - be' mae hynny'n mynd i wneud i'r rheiny sy'n dysgu?

"Mae angen inni chwerthin ychydig mwy ar ein hunain.

"Pan mae 'na gamgymeriadau, dwi'n meddwl dylen ni weld yr ochr olau ohoni - mae 'na ddigon o bethau tywyll yn y byd!"

Un arall sy'n rhoi sylw ambell waith ar enghreifftiau o arwyddion Cymraeg gwael yw'r awdur a'r cyfieithydd, Siân Eleri Roberts.

Does dim angen bod mor llawdrwm bob tro, meddai.

Ffynhonnell y llun, Ceri Llwyd/Facebook

"Mae 'na wahaniaeth rhwng Cymraeg gwallus gan gyrff cyhoeddus a rhywbeth gan gorff gwirfoddol sy'n 'sgrifennu rhywbeth mewn Cymraeg naturiol a does dim angen hollti blew dros ambell dreiglad anghywir," meddai.

Mae'n well o lawer gan Siân weld Cymraeg naturiol yn cael ei ddefnyddio na therm neu ymadrodd sy'n amlwg wedi ei gyfieithu.

"Er enghraifft, gwelais 'Trolley Park' mewn archfarchnad a rhywbeth fel 'Lle gadael trolis' yn Gymraeg yn hytrach na rhywbeth fel 'Parc Trolïau'. 'Lle gadael trolis' fydde pobl yn ei ddweud go iawn," meddai.

"Ro'n i'n gweld hwnnw'n naturiol iawn."

Ydych chi wedi gweld enghreifftiau o Gymraeg da ar arwyddion? Anfonwch aton ni ar ebost: cymrufyw@bbc.co.uk

Eich sylwadau:

"Fy swydd gyntaf wedi gadael yr ysgol oedd gweithio yn siop fwyd Waitrose yn y Barri, a oedd newydd ail-agor wedi bod yn siop Safeway gynt.

"Roedd arwyddion ar pob asgell yn ddwyieithog, ac roedd yr arwydd ar gyfer 'Condiments' wedi dal fy sylw. Y cyfieithiad a roddwyd oedd 'Halen a Phupur ac ati'. Gwych!

"Dwi wedi gweld ambell siop ers hynny yn defnyddio'r term "Cyfwydydd", ond toes gen i ddim cof clywed y gair yna ar lafar erioed.

"Roedd yr arfer da yma'n wefreiddiol i rhywun a dyfodd i fyny'n gweld arwydd y tu allan i Safeways Bangor yn hysbysebu fod ganddynt 'Pferyllfa' yn y siop."

Geraint Rowlands