'Angen monitro rhoi tabledi gwrthseicotig i bobl hŷn'
- Cyhoeddwyd

Dylai data ar y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal gael ei fonitro yn agosach, yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dywedodd Sarah Rochira fod defnyddio'r cyffuriau i reoli "ymddygiad heriol" ymysg cleifion dementia yn "hollol annerbyniol".
Ychwanegodd fod angen cadw data manylach er mwyn gweld union faint y broblem, a gweld os yw'r cyffur yn cael ei ragnodi yn anaddas.
Cafodd y mater ei godi yn ystod ymchwiliad pwyllgor iechyd y Cynulliad ddydd Iau.
'Dim budd'
Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig dywedodd Ms Rochira y dylid datblygu "mecanwaith cenedlaethol" er mwyn casglu data ar roi meddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal.
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am sefydlu hynny, meddai, a chyhoeddi'r wybodaeth bob blwyddyn.
"Mae ystod o dystiolaeth sydd wedi'i gyhoeddi yn y blynyddoedd diweddar wedi awgrymu fod meddyginiaeth gwrthseicotig yn cael ei ragnodi yn anaddas i bobl sy'n byw â dementia mewn cartrefi gofal er mwyn rheoli 'ymddygiad heriol' honedig," meddai.
"Daw hyn er gwaetha'r ffaith y byddai osgoi ymyrraeth fferyllol yn arwain at ganlyniadau llawer gwell i'r unigolion ac yn cael effaith bositif ar eu safon byw."

Mae Sarah Rochira eisiau gweld yr arfer o roi cyffuriau gwrthseicotig yn cael ei fonitro'n agosach
Dywedodd fod un astudiaeth wedi canfod fod "hyd at bedwar o bob pum person hŷn sydd yn byw â dementia, oedd yn cael cyffuriau gwrthseicotig, yn gweld dim budd ohonyn nhw o gwbl".
"Er bod mwy o gydnabyddiaeth o'r mater yma ar draws y sector iechyd a gofal, gan gynnwys y sector annibynnol, mae'n hanfodol fod data cadarn yn cael ei gasglu er mwyn gweld beth yw gwir faint y broblem," meddai.
"Dim ond wedyn y gall Cymru gymryd y camau priodol er mwyn atal pobl hŷn sydd yn byw â dementia rhag cael rhagnod anaddas o'r cyffuriau llonyddu pwerus yma."
Galw am archwilio
Dywedodd y Gymdeithas Alzheimer's wrth ymchwiliad y pwyllgor iechyd fod angen i Lywodraeth Cymru ddechrau archwilio'r arfer o roi cyffuriau gwrthseicotig i gleifion â dementia mewn cartrefi gofal, er mwyn deall y mater yn well a gwella arfer clinigol.
Maen nhw hefyd wedi galw am ddod â'r arfer o ragnodi rheolaidd, a lleihau'r amser a maint y ddos pan mae angen defnyddio cyffuriau gwrthseicotig.
Mae cyffuriau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio fel arfer i drin cyflyrau fel sgitsoffrenia a salwch deubegynol.
Fe wnaeth arolwg ym mis Tachwedd 2016 gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ganfod fod bron i un ym mhob pump - 18% - o gleifion dementia yn cael y cyffuriau hynny.