Terfysgaeth: Rhyddhau dyn 48 oed o Gasnewydd

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae Heddlu'r Met wedi cadarnhau fod dyn 48 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad terfysgol yn Llundain wedi ei ryddhau heb gyhuddiad.

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn cyrch yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Cafodd 30 o bobl eu hanafu wedi i ddyfais ffrwydro ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green ddydd Gwener.

Roedd cyfanswm o chwech o bobl wedi'u harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad, ond mae dau ohonynt bellach wedi eu rhyddhau ar ôl i ddyn 21 oed gafodd ei arestio yn Hounslow hefyd gael ei ryddhau heb gyhuddiad.

Mwy o amser holi

Yn ogystal â'r dyn sydd wedi ei ryddhau, cafodd dau ddyn arall eu harestio yng Nghasnewydd ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Ddydd Iau cafodd Heddlu'r Met ragor o amser i holi'r dynion 25 a 30 oed sy'n parhau yn y ddalfa.

Daeth i'r amlwg ddydd Iau fod y tŷ yng Nghasnewydd gafodd ei archwilio gan heddlu ddydd Mawrth yn cael ei reoli gan gwmni sydd â chytundeb â'r Swyddfa Gartref i ddarparu llety i geiswyr lloches.

Mae BBC Cymru wedi gweld archifau gwladol sy'n dangos mai Clearsprings Ready Homes sy'n rheoli'r adeilad.

Mae Clearsprings wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater, gan gyfeirio unrhyw gwestiynau at y Swyddfa Gartref, sydd hefyd wedi dweud nad ydynt am wneud sylw.

Mae'r archifau yn dangos bod gan y tŷ - sy'n gallu cartrefu pump o bobl - landlord o Gasnewydd ac mai Clearsprings yw'r asiant.

Yn 2012 fe wnaeth y cwmni o Essex arwyddo cytundeb newydd pum mlynedd gyda'r Swyddfa Gartref i ddarparu llety a thrafnidiaeth i geiswyr lloches.

Mae ganddo gytundeb gwerth £119m i ddarparu'r holl lety ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru.

Ffrindiau'n 'methu credu'

Mae ffrinidau i'r dyn cyntaf a gafodd ei arestio yng Nghasnewydd mewn cysylltiad ag ymosodiad Parsons Green yn dweud nad ydyn nhw'n gallu credu fod ganddo unrhyw beth i'w wneud â'r digwyddiad.

Cafodd y dyn 25 oed, sy'n cael ei 'nabod yn lleol fel Bilal, ei arestio ar Stryd Glebe yn y ddinas am 19:00 nos Fawrth.

Aeth yr heddlu ymlaen i archwilio ei dŷ ar Stryd Jeffrey.

Cadarnhaodd ei ffrindiau fod y peintiwr yn defnyddio cyfrif Facebook dan yr enw Mahdi Rahimi.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyn sy'n cael ei adnabod fel Bilal yn lleol, ac yn defnyddio'r enw Mahdi Rahimi ar ei gyfrif Facebook, yn parhau i fod yn y ddalfa

Dywedodd un o'i gyfeillion ei fod wedi cyrraedd Casnewydd yn 2009.

"Dwi'n ei nabod ers iddo gyrraedd yma.

"Mae'n ddyn da iawn, fedra i ddim credu hyn.

"Dyn Cwrdaidd yw e, mae'n disgrifio terfysgwyr fel Isis fel pobl dwp."

Dywedodd person arall fod pawb yn ei adnabod: "Doedd e ddim yn dawel neu'n cadw iddo'i hun, roedd pawb yn ei adnabod yma.

"Cwrd yw e, fyddai e ddim yn cael dim i'w wneud ag Isis."