Cynlluniau amlinellol am 2,000 o dai yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
taiFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai bron i 2,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn Abertawe dros yr 13 mlynedd nesaf.

Mae cwmni datblygu Llanmoor wedi ceisio cael caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Abertawe i adeiladu ar 284 erw (115 hectar) o dir amaethyddol i'r gorllewin o Ffordd Llangyfelach.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys ysgol gynradd newydd, caeau chwaraeon, parciau a ffordd gyswllt.

Byddai'r cynigion yn effeithio ar dair ardal gan gynnwys Llangyfelach, Mynydd Bach a Phenderi, ac mae cynlluniau i adeiladu'r datblygiad mewn cyfnodau, gan ddechrau gyda 1,160 o gartrefi erbyn 2025, ac yna 790 ychwanegol erbyn 2030.

Dywedodd datganiad gan y datblygwyr y byddai'n gwneud "cyfraniad pwysig a sylweddol" i gwrdd â'r angen sydd am dai yn lleol.