Canfod dyn o Ethiopia yn cuddio yng nghefn car ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bowys yn dweud ei fod wedi "synnu" ar ôl canfod rhywun yn cuddio yng nghefn ei gar wedi iddo ddychwelyd o drip i Ffrainc.
Newydd gyrraedd adref i Gaersws oedd Paul Edmunds pan sylwodd ar esgidiau'r dyn yn procio allan wrth iddo ddadlwytho'i fagiau.
Dywedodd Mr Edmunds ei fod yn credu fod y dyn, sydd o Ethiopia yn wreiddiol, wedi dringo i'w gerbyd rhywle yng nghyffiniau porthladd Calais.
Cafodd y teithiwr cudd ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o ddod i'r DU yn anghyfreithlon.
'Dim trafferth'
Roedd y dyn wedi teithio tua 4,000 milltir o'i gartref yn Affrica, cyn cael ei arestio gan Heddlu Dyfed Powys ar 18 Medi.
"Fe welais i'r 'sgidiau budr yng nghefn y cerbyd," meddai Mr Edmunds.
"Nes i ofyn i'r ffrindiau oedd yn teithio gyda ni os mai eu 'sgidiau nhw oedden nhw, ac wedyn fe sylweddolais i eu bod nhw wedi'u cysylltu i bâr o goesau.
"Roeddwn i'n gwybod fod rhywun yno ac fe wnes i ddyfalu'n syth fod gennym ni deithiwr cudd."
"Rydyn ni'n methu'n lân a deall sut ddaeth o mewn i'r cerbyd," meddai Mr Edmunds.
"Pan wnaethon ni ddod o hyd iddo roedd e'n eitha' brawychus i ddechrau ac fe wnaethon ni alw'r heddlu.
"Roedd o'n ddyn tawel iawn. Dim ond 18 neu 19 oedd o, roeddwn i'n gallu gweld nad oedd o'n drafferth ac wedyn fe ddaeth yr heddlu a'i arestio."
Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddan nhw'n delio â'r dyn "yn unol â rheolau mewnfudo", a thra bod gyrwyr loriau yn gallu wynebu dirwyon os yw mewnfudwyr anghyfreithlon yn cael eu canfod yn eu cerbydau, dyw pobl sydd wedi bod ar wyliau ddim yn cael eu cosbi yn yr un modd.